Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 
 
 

Rhestr Hawliau

Erthygl 1

Mae gan bob un dan ddeunaw oed yr holl hawliau sydd yn y Confensiwn hwn.

Erthygl 2

Mae’r Confensiwn yn gymwys i bawb beth bynnag fo’u hil, crefydd, galluoedd, beth bynnag a feddyliant neu a ddywedant, a pha fath bynnag o deulu y dônt ohono.

Erthygl 3

Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i ti.

Erthygl 4

Dylai Llywodraethau ofalu bod yr hawliau hyn ar gael i ti.

Erthygl 5

Dylai Llywodraethau barchu hawliau a chyfrifoldebau teuluoedd i gyfeirio ac arwain eu plant fel eu bod, wrth dyfu, yn dysgu sut i ddefnyddio’u hawliau’n gywir.

Erthygl 6

Mae gennyt ti’r hawl i fyw. Dylai Llywodraethau ofalu fod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach.

Erthygl 7

Mae gennyt ti’r hawl i enw a gofrestrwyd yn gyfreithiol ac i genedligrwydd. Mae gennyt ti’r hawl hefyd i wybod pwy yw dy rieni a chyhyd ag y bo modd i dderbyn gofal ganddynt.

Erthygl 8

Dylai Llywodraethau barchu hawl plant i enw, cenedligrwydd a chysylltiadau teulu.

Erthygl 9

Ni ddylid dy wahanu oddi wrth dy rieni onid yw hyn er dy les dy hun - er enghraifft os yw rhiant yn dy gam-drin neu’n dy esgeuluso. Os yw dy rieni wedi gwahanu, mae gennyt hawl i gadw mewn cysylltiad â’r ddau riant, oni fyddai hyn yn dy niweidio.

Erthygl 10

Dylai teuluoedd sy’n byw mewn gwledydd gwahanol gael yr hawl i symud rhwng y gwledydd hynny fel y gall y rhieni a’r plant gadw mewn cysylltiad neu ddod at ei gilydd fel teulu.

Erthygl 11

Dylai Llywodraethau gymryd camau i atal plant rhag cael eu cymryd allan o’u gwledydd nhw’u hunain yn anghyfreithlon.

Erthygl 12

Mae gennyt ti’r hawl i ddweud dy farn ynglyˆn â’r hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnat, a dylid cymryd dy farn i ystyriaeth.

Erthygl 13

Mae gennyt ti’r hawl i gael, ac i rannu, gwybodaeth onid yw’r wybodaeth yn niweidiol i ti neu eraill.

Erthygl 14

Mae gennyt ti’r hawl i feddwl a chredu’r hyn a fynnet ac i arfer dy grefydd, cyhyd ag nad wyt yn atal pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau. Dylai rhieni roi arweiniad i blant ar y materion hyn.

Erthygl 15

Mae gennyt ti’r hawl i gyfarfod plant a phobl ifainc eraill ac ymuno gyda grwpiau a sefydliadau, cyn belled nad yw hyn yn atal pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.

Erthygl 16

Mae gennyt ti’r hawl i breifatrwydd. Dylai’r gyfraith dy amddiffyn rhag ymosodiadau ar dy ffordd o fyw, dy enw da, dy deulu a dy gartref.

Erthygl 17

Mae gennyt ti’r hawl i wybodaeth ddibynadwy gan y cyfryngau torfol. Dylai teledu, radio, a phapurau newydd roi gwybodaeth yr wyt yn ei deall, ac ni ddylent hyrwyddo deunyddiau a allai dy niweidio.

Erthygl 18

Dylai’r ddau riant rannu cyfrifoldeb dros fagu eu plant, a dylent ystyried yr hyn sydd orau i bob plentyn bob amser. Dylai Llywodraethau helpu rhieni trwy ddarparu gwasanaethau i’w cefnogi, yn enwedig os yw’r ddau riant yn gweithio.

Erthygl 19

Dylai Llywodraethau ofalu bod plant yn cael y gofal priodol, a’u cadw rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n gofalu amdanynt.

Erthygl 20

Os na all dy deulu dy hun ofalu amdanat, rhaid i ti dderbyn gofal priodol gan bobl sy’n parchu dy grefydd, diwylliant ac iaith.

Erthygl 21

Os wyt yn cael dy fabwysiadu, yr ystyriaeth gyntaf yw’r hyn sydd orau i ti. Dylai’r un rheolau fod yn berthnasol os yw’r mabwysiadu yn cymryd lle yn y wlad lle y cefaist dy eni neu os wyt yn symud i wlad arall.

Erthygl 22

Os wyt yn blentyn sydd wedi dod i wlad fel ffoadur, dylit gael yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno.

Erthygl 23

Os oes gennyt anabledd, dylit dderbyn gofal arbennig a chefnogaeth er mwyn gallu byw bywyd llawn ac annibynnol.

Erthygl 24

Mae gennyt yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da ac i ddwˆr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân er mwyn gadw’n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

Erthygl 25

Os wyt yn derbyn gofal gan dy awdurdod lleol yn hytrach na gan dy rieni, dylai dy sefyllfa gael ei hadolygu’n rheolaidd.

Erthygl 26

Dylai’r Llywodraeth roi arian ychwanegol ar gyfer plant teuluoedd mewn angen.

Erthygl 27

Mae gennyt ti’r hawl i safon byw sy’n ddigon da i ddiwallu dy anghenion corfforol a meddyliol. Dylai’r Llywodraeth helpu rhieni na allant fforddio i ddarparu hyn.

Erthygl 28

Mae gennyt yr hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu hunan-barch dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

Erthygl 29

Dylai addysg ddatblygu dy bersonoliaeth a’th ddoniau yn llawn. Dylai dy annog i barchu dy rieni, dy ddiwylliant dy hun a diwylliannau eraill.

Erthygl 30

Mae gennyt yr hawl i ddefnyddio iaith ac arferion dy deulu, boed y rhain yn cael eu rhannu gan fwyafrif y bobl yn y wlad ble’r wyt yn byw neu beidio.

Erthygl 31

Mae gennyt yr hawl i ymlacio, chwarae ac ymuno mewn ystod eang o weithgareddau.

Erthygl 32

Dylai’r Llywodraeth dy gadw rhag gwaith sy’n beryglus neu a allai amharu ar dy iechyd neu dy addysg.

Erthygl 33

Dylai’r Llywodraeth ddarparu ffyrdd o dy amddiffyn rhag cyffuriau peryglus.

Erthygl 34

Dylai’r Llywodraeth dy amddiffyn rhag camdriniaeth rywiol.

Erthygl 35

Dylai’r Llywodraeth sicrhau na chei di dy gipio na dy werthu.

Erthygl 36

Dylit gael dy warchod rhag unrhyw weithgarwch a allai amharu ar dy ddatblygiad.

Erthygl 37

Os wyt ti’n torri’r gyfraith ni ddylid dy drin yn greulon. Ni ddylid dy roi mewn carchar gydag oedolion a dylit allu cadw mewn cysylltiad gyda dy rieni.

Erthygl 38

Ni ddylai Llywodraethau adael i blant dan 15 oed ymuno â’r fyddin. Mewn parthau rhyfel, dylit gael gwarchodaeth arbennig.

Erthygl 39

Os wyt ti wedi cael dy esgeuluso neu dy gam-drin, dylit gael help arbennig i adfer dy hunan-barch.

Erthygl 40

Os wyt yn cael dy gyhuddo o dorri’r gyfraith dylit dderbyn help cyfreithiol. Dylid defnyddio dedfrydau o garchar i blant ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol yn unig.

Erthygl 41

Os yw cyfraith gwlad arbennig yn dy warchod yn well nag erthyglau’r Confensiwn, yna dylai’r cyfreithiau hynny ddal i fodoli.

Erthygl 42

Dylai’r Llywodraeth wneud y Confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn.

Mae Erthyglau 43 – 54 yn ymwneud â sut y dylai oedolion a Llywodraethau gydweithio i ofalu bod pob plentyn yn derbyn ei holl hawliau.

 
 

Dolenni Cymdeithasol