Gwrando a Dysgu... y stori iawn, y stori am hawliau
Dros y ddwy flynedd ddiwetha’ ry’ ni wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddarganfod beth fyddai’n eu help i gael profiad dysgu positif.
Mae’r adnodd – sydd wedi ei anelu at bawb sy’n gweithio yn y system addysg – yn cynnwys negeseuon oddi wrth blant a phobl ifanc o ar draws Cymru sy’n trafod eu profiadau dysgu ac mae’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol am ddatblygiadau polisi diweddar a mentrau ynghylch cyfranogaeth plant.
Dyma beth ry’ ni wedi cynhyrchu:
- Adnodd: mae hwn yn cynnwys gwybodaeth gefndirol am y prosiect a darganfyddiadau ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc. Ry’ ni hefyd wedi cynnwys amlinelliad o’r gweithdai y defnyddiom i gasglu gwybodaeth a linciau defnyddiol i ddarllen pellach. Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r adnodd.
- Posteri: un o oedolion sy’n cynnwys holl negeseuon allweddol plant a phobl ifanc ac un arall i blant a phobl ifanc. Ry’ ni hefyd wedi gadel lle ar y poster i blant a phobl ifanc fedru llanw ein negeseuon eu hunain. Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r poster oedolion a cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r poster i bobl ifanc.
Adnoddau i chi eu defnyddio: os ydych chi’n oedolyn yna cliciwch yma ac mai plentyn neu berson ifanc i chi, dyma stwff allwch chi ddefnyddio
Beth allwch chi wneud nesa’?
Prifathrawon, athrawon, athrawon o dan hyfforddiant a llywodraethwyr: Cliciwch yma
Cynghorau Ysgol: Cliciwch yma
Am fwy o wybodaeth ebostiwch ni ar fynegeseuon@complantcymru.org.uk