Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 
 
 

Grwpiau Ymgynghorol

Mae gennym ddau grŵp ymgynghorol i bobl ifanc, un yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru. Mae’r bobl ifanc ar y grwpiau ymgynghorol yn rhoi cyngor i ni ar ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc.

Mae’r bobl ifanc yn cael hyfforddiant ar bethau sy’n eu helpu i gynghori’r swyddfa, fel beth mae’r swyddfa’n ei wneud, hawliau plant, gweithio fel tîm a recriwtio.

Beth mae’r grwpiau ymgynghorol yn ei wneud?

Mae’r bobl ifanc ar y grwpiau:

  • yn rhoi cyngor i ni ar sut rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • yn ein helpu i gynllunio’n gwaith a hefyd i gymryd rhan mewn rhywfaint o’r gwaith gyda phlant a phobl ifanc
  • yn rhoi cyngor i ni ar y pethau a ddywedwn ac a ysgrifennwn (er enghraifft, sut mae’n gwefan yn edrych ac a yw’n adroddiadau a’n taflenni’n gyfeillgar i blant a phobl ifanc)
  • yn cymryd rhan wrth recriwtio staff newydd. 

Rydym yn cynnwys llawer o blant a phobl ifanc wrth benderfynu ar ba bethau rydym yn gweithio arnynt. Nid y grwpiau ymgynghorol sy’n penderfynu ar yr hyn a wnawn, ond maent o gymorth i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gweithio mewn ffordd sy’n golygu y gall llawer o blant a phobl ifanc gwahanol gymryd rhan.

 
 

Dolenni Cymdeithasol