Fersiwn Testun
Gêm Eich Hawliau
Croeso i fyd rhyngweithiol 'Gwybod dy Hawliau'! Mae hawliau gan bob plentyn a pherson ifanc o dan 18, ac mae'r hawliau yna yn un rhestr hir, o'r enw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Yr her i ti yw archwilio'r map o'r gymuned a chasglu dy holl hawliau ar y ffordd. Rhaid i ti ymweld â'r pedwar safle ar y map a chwblhau pob her er mwyn croesi i'r ynys siâp seren. Yno byddi di'n casglu tystysgrif bersonol 'Gwybod dy Hawliau' i brofi bod ti'n gwybod am dy hawliau i gyd.
Barod? Clicia ar y botwm cychwyn i roi cynnig arni!
Y Ffair
Croeso i’r Ffair, dere mewn, dere mewn! Beth am roi cynnig ar y gêm yma yn y ffair? Mae angen ymateb yn gyflym i daro’r 12 seren sy’n codi!
Ceisia roi ergyd i’r holl sêr sy’n codi i gasglu dy holl hawliau yn y parth yma.
Gafael yn y morthwyl, a bant â ni!
Yr Ysgol
Croeso i'r Ysgol. Yn y wers heddiw, yr her yw rhoi cynnig ar ateb pob un o'n 10 cwestiwn aml-ddewis am dy hawliau yn gywir.
Y ffordd i ateb pob un o'r cwestiynau aml-ddewis yw clicio ar y llythrennau A, B, C neu Ch ar y bwrdd gwyn.
Fe gei di seren aur am bob cwestiwn rwyt ti'n ateb yn gywir. Mae angen casglu'r 10 seren aur i gwblhau rhan Ysgol y gêm.
Wyt ti'n barod am her?
GWERS HEDDIW:CWESTIYNAU AML DDEWIS
Cwestiwn 1
Pawb o dan ba oedran sydd â'r holl hawliau yn y Confensiwn yma?
A) 12 B) 21 C) 16 Ch) 18
Cwestiwn 2
Dylai'r Llywodraeth ddarparu ffyrdd o'th amddiffyn di rhag beth peryglus?
A) cyffuriau B) anifeiliaid C) tywydd Ch) bwyd
Cwestiwn 3
Pa air sydd ar goll? Dylai pob sefydliad sy'n gweithio gyda phlant wneud y peth _______ i bob plentyn
A) gwaetha B) gorau C) iawn Ch) cŵl
Cwestiwn 4
Mae gan bob plentyn hawl i gael beth sydd wedi'i gofrestru'n gyfreithlon?
A) anifail anwes B) car C) enw Ch) cartref
Cwestiwn 5
Mae gen ti'r hawl i ddweud beth rwyt ti'n meddwl ddylai ddigwydd os yw oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bwy?
A) dy gymdogion B) ti C) oedolion Ch) dy athro/athrawes
Cwestiwn 6
Dylai'r Llywodraeth sicrhau bod pwy yn gwybod am CCUHP?
A) plant B) oedolion C) gwleidyddion Ch) plant, pobl ifanc ac oedolion
Cwestiwn 7
Mae gan blant hawl i gael beth gan y cyfryngau?
A) gwybodaeth sy'n ddibynadwy B) newyddion am sêr y cyfryngau C) cystadlaethau Ch) gwybodaeth am eu horosgop
Cwestiwn 8
Ddylai Llywodraeth ddim caniatáu i blant o dan ba oedran ymuno â'r fyddin?
A) 18 B) 15 C) 25 Ch) 10
Cwestiwn 9
Dylai'r Llywodraeth ddarparu beth ychwanegol ar gyfer plant teuluoedd mewn angen?
A) bwyd B) anrhegion pen-blwydd C) trydan Ch) arian
Cwestiwn 10
Dylai plant gael eu hamddiffyn rhag unrhyw weithgareddau a allai niweidio beth?
A) eu graddau yn yr ysgol B) eu datblygiad C) eu hoff dîm pêl-droed Ch) eu cyfle i gael swydd
Y Seibercaffi
Croeso i'r Seibercaffi, lle mae plant a phobl ifanc yn dod i ymlacio, chwarae gêmau ac ennill heriau. Tybed wyt ti'n gallu curo'r cyfrifiadur drwy ateb pob un o'r 10 cwestiwn!
Clicia ar `'gwir' neu `'gau' ar sgrîn y cyfrifiadur i ateb pob cwestiwn. Mae angen ateb y 10 cwestiwn yn gywir i ddod o hyd i'r holl hawliau yn y parth yma.
GWIR NEU GAU?
Cwestiwn 1
Caiff plant wneud unrhyw fath o waith
Cwestiwn 2
Ddylai plant sy'n torri'r gyfraith ddim cael eu rhoi mewn carchardai gydag oedolion
Cwestiwn 3
Mae gan blant hawl i dderbyn a rhannu gwybodaeth
Cwestiwn 4
Hyd yn oed petai cyfreithiau'r Deyrnas Unedig yn amddiffyn plant yn well na hawliau CCUHP, dylai'r cyfreithiau newid i gyd-fynd â CCUHP
Cwestiwn 5
Dylai addysg annog plant i barchu eu rhieni
Cwestiwn 6
Mae'n rhaid i blant siarad yr iaith mae'r rhan fwyaf o bobl eraill yn eu gwlad yn ei siarad
Cwestiwn 7
Ddylai plant byth gael eu hanfon i'r carchar
Cwestiwn 8
Mae gan blant sy'n dod i mewn i wlad fel ffoaduriaid yr un hawliau â phlant a gafodd eu geni yn y wlad honno
Cwestiwn 9
Mae gan blant hawl i breifatrwydd
Cwestiwn 10
Os wyt ti'n camfihafio yn yr ysgol, byddi di'n colli dy hawl i gael addysg
Y Parc
Croeso i'r Parc; mae llwyth o bethau'n digwydd yn y parc heddiw. Edrych o gwmpas a dod o hyd i'r hawliau sydd gen ti yn y parc drwy glicio ar unrhyw beth sy'n edrych yn ddiddorol.
Bydd angen dod o hyd i bob un o'r 10 hawl i gwblhau'r cam yma yn y map o'r gymuned. Fe gei di seren aur am bob hawl rwyt ti'n ffeindio.
Cyflawnwyd yr her! Darganfyddaist y 42 hawl!