Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Fy Nghynllunydd

Rwy' wedi clywed am lawer o enghreifftiau da lle mae pobl ifanc sy'n gadael gofal wedi cael cefnogaeth a llawer o help o symud yn raddol i fywyd annibynnol. Ond rwy' hefyd wedi clywed gan eraill eu bod nhw'n teimlo ar goll braidd yn y cyfnod yma.

Nid un cam, sef symud o uned preswyl neu o ofal gofalwr maeth i fyw ar eich pen eich hun, yw gadael gofal. Mae'n broses radol sy'n gallu dechrau unrhyw bryd.

Rwy' wedi penderfynu cynhyrchu'r cynllunydd yma sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am beth gallwch chi ei hawlio a phwy ddylai fod yn eich helpu.

Gallwch chi ddarllen y Cynllunydd yma. Falle bydd e'n cymryd cwpwl o eiliadau i lwytho ar y sgrin. Er mwyn darllen y Cynllunydd rhowch eich llygoden/cursor ar ochr dde, ar waelod y sgrin a fe welwch chi'r dudalen yn dechrau troi. Pan fyddwch chi'n barod i droi'r dudalen yna cliwch yn yr un man.

I ddarllen ferswin .pdf o'r Cynllunydd cliciwch yma. Cofiwch, mae'r gwefannau sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllunydd i gyd yn gweithio ar y ffeil felly yr unig beth sy'n rhaid i chi wneud yw i wasgu ar gyfeiriad y wefan i chi am ei hymweld.

Os cewch chi unrhyw drafferth yn darllen hwn, yna gallwch ddarllen a lawrlwytho fersiwn brintiadwy yma neu cysylltwch â ni. 

Rydym ni wedi gwneud ein gorau i sicrhau fod y dolenni cyswllt hyn yn gweithio ond ni allwn fod yn gyfrifol am hen ddolenni cyswllt neu rai sydd wedi torri nac am gynnwys y gwefannau hyn.

 
 

Dolenni Cymdeithasol