ENOC: Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop
Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop (ENOC)
Mae gan lawer o wledydd ledled Ewrop ‘hyrwyddwyr plant’; gelwir rhai ohonynt yn Gomisiynwyr Plant, fel sydd gennym yng Nghymru, ac eraill yn Ombwdsmyn, fel Ombwdsmon Plant Iwerddon (Saesneg yn unig).
Mae llawer o Gomisiynwyr ac Ombwdsmyn yn aelodau o ENOC: rhwydwaith sy’n anelu at wella bywydau’r holl blant yn Ewrop. Sefydlwyd y Rhwydwaith ym 1997 ac erbyn hyn mae’n cysylltu cymdeithasau hawliau dynol annibynnol i blant o 23 o wledydd Ewropeaidd.
Mae Comisiynydd Plant Cymru’n mynychu cyfarfod pwysig bob blwyddyn i rannu gwybodaeth ag aelodau eraill ac i drafod pynciau arbennig sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Yn y cyfarfod hwn, mae aelodau hefyd yn siarad am gydweithio, gan gynnwys datganiadau posibl am faterion a phynciau arbennig.
Dyma ddolen i wefan y Rhwydwaith (Saesneg yn unig).