Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Ein Cynllun Pum Mlynedd

Ein Cynllun Pum Mlynedd

Mae ein cynllun pum mlynedd yn ddogfen rwyf i’n ei defnyddio i rannu fy uchelgeisiau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae gen i dîm sy'n fy helpu i fod bencampwr dros blant a phobl ifanc Cymru. Mae'r ddogfen hon yn ein helpu i flaenoriaethu ac fydd gennym gynllun cynhwysfawr, fydd yn newid bob blwyddyn, sy'n amlinellu'n holl weithgareddau.

Er ein bod ni’n annibynnol, dydyn ni ddim yn gweithio ar ein pennau ein hunain. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod Cymru’n wlad lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, ac yn cael gwrandawiad a chefnogaeth i fyw bywydau diogel a hapus.

Mae na lawer o bethau ry' ni eisiau cyflawni. Dyma wybodaeth am ein gweledigaeth, ein gwerthoedd a nodau'r swyddfa.

Gweledigaeth

Byddwn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac ar eu rhan i gyflawni newidiadau cadarnhaol, parhaol ym mywydau plant Cymru.

Gwerthoedd

Mae'r gyfres yma o wyth o werthoedd yn ein helpu i sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei wneud am y rheswm cywir.

• Mae plant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud
• Rydyn ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc, gan sbarduno gweithredu a newid
• Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc drwy weithio mewn partneriaeth a galw i gyfrif
• Rydyn ni’n gweithredu fel pencampwyr i blant a phobl ifanc
• Rydyn ni’n credu yn hawliau pawb, amrywiaeth a pharch
• Rydyn ni’n arwain ac yn herio ag integriti a dewrder
• Rydyn ni’n ysbrydoli pobl i wneud eu gorau dros blant a phobl ifanc
• Rydyn ni’n buddsoddi yn ein staff.

Nodau

Mae llawer o bethau rydyn ni eisiau eu cyflawni. Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu. Rydyn ni eisiau:

• Cynyddu dealltwriaeth o hawliau plant a phobl ifanc a Chomisiynydd Plant Cymru
Fel bod…gan blant, pobl ifanc ac oedolion well dealltwriaeth o’u hawliau a sut all Comisiynydd Plant Cymru helpu os na fydd pobl yn medru mwynhau eu hawliau.

• Lleihau anghydraddoldeb a chamwahaniaethu
Fel bod… plant a phobl ifanc yn cael cyfle teg.

• Parhau i fod yn sefydliad sy’n perfformio ar lefel uchel, gan roi arweiniad ysbrydoledig i eraill
Fel bod… modd i ni weithio mewn partneriaeth i gyflwyno gwahaniaethau cadarnhaol, parhaol i fywydau a phrofiadau plant a phobl ifanc.

• Sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cyflwyno’n effeithiol i blant a phobl ifanc gan bawb
Fel bod… plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn, yn derbyn gwasanaethau a chymorth, ac yn gallu bod yn rhan o benderfyniadau am eu bywydau.

• Gwella agweddau at blant a phobl ifanc
Fel bod… plant a phobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb.

• Adeiladu sefydliad cryf, hyderus, ysbrydoledig a gwydn
Fel bod… ein staff yn medru gweithio’n effeithiol fel tîm i helpu sicrhau fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol.

Mi fyddwn o hyd yn ymateb i blant a phobl ifanc.

Rydyn ni eisiau gwneud plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol.

Mi fydda i'n rhannu ein cynllun pum mlynedd gyda chi yn yr wythnosau nesaf ond dyma gip olwg.

Rydyn ni'n hapus i siarad...

Os oes gennych chi unrhyw adborth neu sylwadau ar y dair brif adran (sydd i'w gweld ar y llaw chwith), yna cysylltwch â ni:

E: comisiynydd@complantcymru.org.uk

T: 01792 765600 a gofynnwch am Eleri Thomas, ein Prif Weithredwr.

 
 

Dolenni Cymdeithasol