Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Y Diweddaraf

Dau ddigwyddiad Llysgenhadon gwych ym Mehefin 2011

Fe gynhalion ni ddau ddigwyddiad ym Mehefin 2011, un yn Orenfa Margam, Port Talbot, De Cymru ac un yng Nghanolfan Arfordir y Gogledd, Towyn, Gogledd Cymru.

Cafodd y ddau ddigwyddiad eu cynnal er mwyn i Keith gael clywed am y gwaith y mae ein llysgenhadon wedi bod yn ei wneud ar draws Cymru yn 2010/2011. Roedden ni hefyd eisiau i bawb gael hwyl a rhannu syniadau. Ar ben hyn oll, gan ein bod yn dathlu 10 mlynedd fel swyddfa, roedd hi’n gyfle gwych i ddathlu hyn gyda’n llysgenhadon, llawer o’r rheiny hefyd yn 10 oed!

Bu’r plant i gyd yn cymryd rhan mewn gweithdai amrywiol drwy gydol y dydd. Roedd gweithdai prosiectau arbennig, addurno teisennod, gemau parasiwt, creu cardiau crefftus a hyd yn oed castell neidio er mwyn gollwng stêm! 

Yn y gweithdy prosiectau arbennig bu Keith yn gwrando ar pob grŵp o lysgenhadon wrth iddyn nhw gymryd rhan. Os ydych chi’n meddwl pa wahaniaeth mae’r cynllun yn ei wneud mewn ysgolion, dylech fod wedi clywed y rhestr o brosiectau mae’r Llysgenhadon wedi eu gwneud. Roedden nhw’n cynnwys mynd i’r afael â’r toiledau, creu a dosbarthu pamffled ar hawliau plant, helpu i wella cinio ysgol, dod o hyd i lefydd diogel i chwarae, casglu barn plant ar gynnig newydd gan yr ysgol, codi arian ar gyfer offer chwarae, cymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol yn cynnwys arbed ynni yn yr ysgol, creu gardd ar gyfer pobl ag anghenion arbennig, ailgylchu yn yr ysgol, bwyta’n iach yn ystod amser egwyl, gosod hysbysfyrddau Llysgenhadon y Comisiynydd, cynnal gwasanaethau mewn ysgolion a llunio cyflwyniadau PowerPoint am Gonfensiwn Hawliau’r Plentyn y Cenhedloedd Unedig.

Dros ginio fe wnaethon ni gynnau teisen 10fed Pen-blwydd arbennig, gyda’n logo lliwgar a deg cannwyll arni. Ymunodd pawb i ganu Pen-blwydd Hapus a mwynhau darn hyfrod o deisen yn bwdin.
Ym Margan cafwyd helfa drysor yn y gerddi gyda llwyth o weithgareddau i’w gwneud ar y daith. Roedd rhai gweithgareddau’n casglu gwybodaeth ac eraill yn helpu’r llysgenhadon i feddwl am eu gwaith yn yr ysgol. Cafodd pawb lawer o hwyl yn rasio i gasglu’r cliwiau a’r sticeri.
Arhosodd y plant ger llwybr helyg lle gofynnon ni iddyn nhw ‘beth sy’n wych am fod yn ddeg’ ar ddarn o gerdyn lliw a chlymu’r negeseuon ar yr helygen. Roedd yn edrych yn hardd a dyma rai o’r sylwadau:

  • “Mae yna lwyth o lefydd addas i blant i fynd i chwarae”
  • “Mae bod yn 10 yn wych ac rydwi i wrth fy modd achos fi yw’r gorau yn y dosbarth. Hwre!” 
  • "Bod yn ddigon hen i fynd ar reids”
  • “Rydych chi ym Mlwyddyn 6 ac yn cael y cyfle i fod yn llysgennad”
  • “Paratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd”
  • “Mae bod yn 10 yn wych achos gallwch chi gael cymaint o hwyl yn gwneud beth dych chi eisiau gwneud nes i chi fod yn eich arddegau.”
  • “Bod yn Llysgennad i Gomisiynydd Plant Cymru!”

Yn Nhowyn bu’r llysgenhadon yn gweithio yn y prynhawn gyda’r bardd Martin Dawes yn ysgrifennu rap gwych am hawliau plant. Bu’r grŵp i gyd yn gweithio gyda’i gilydd ar y gytgan ac yna rhannu’n grwpiau llai i ysgrifennu’r penillion. Dyma’r rap gorffenedig.

Chorus
It’s not about me, it’s about everybody
It’s not about money it’s about being free.
It’s not about fear it’s about feeling safe
Whoever you are, whatever your age or race.

If you want to talk you need someone to listen
if you speak out loud just feel proud.
Don’t be scared to make your self heard.
When you’re in a crowd, just be loud.

When you’re ill it’s Calpol every day,
When you’re well you go out and play.
Go to the doctors, get his prediction
Then off to the chemist for your free prescription. 

Everybody needs clothes to keep nice and warm,
From summer to winter, from dusk to dawn.
Cotton to wool, leather to plastic
Never forget elastic’s fantastic. 

How do we keep everyone safe?
Make people happy around you -Play with everybody
Not misbehaving around people.
Looking after each other,
Respecting each other,
Understand each other. 
 
Don’t be blue we need to be green.
Working together to keep our world clean.
Otherwise the world will explode so everyone will die,
I know it’s hard but we have to try.

Cyfarfodydd Rhanbarthol i Lysgenhadon ym mis Mai 2010

Cyfarfodydd Rhanbarthol i Lysgenhadon yw un o’r ffyrdd i ni glywed gan Lysgenhadon ac Athrawon sut maen nhw'n teimlo am fod yn rhan o'r cynllun. Rydyn ni'n gwrando ar beth sydd gan bawb i'w ddweud, er mwyn i ni allu gwneud y cynllun yn well fyth.

Diolch i bawb a deithiodd i Fodelwyddan yng Ngogledd Cymru a Pharc y Scarlets, Llanelli, yn Ne Cymru. Roedd y ddau gyfarfod yn llwyddiannus dros ben!

‘Fe ges i hwyl heddi. Dwi wrth fy modd yn bod yn Llysgennad, ac rydw i'n dymuno gallen ni gael mwy o gyfarfodydd fel heddi!!’

Cael hwyl yn creu celf ar gynfas, gyda neges…

Yn ystod y cyfarfodydd rhanbarthol fe wnaethon ni ofyn i’r llysgenhadon greu celf ar gynfas, a oedd hefyd yn ffordd i ni gael adborth am y cynllun. Fe wnaethon ni ofyn cwestiynau fel hyn iddyn nhw:

  • Beth wyt ti wedi ei ddysgu drwy fod yn llysgennad?
  • Beth oedd yn wych am fod yn llysgennad?
  • Pa syniadau sydd gen ti i wneud y cynllun yn well fyth?

Dywedodd ein Llysgenhadon wrthon ni:

‘Rydw i wedi dysgu mwy am hawliau plant a democratiaeth’

‘Cwrdd â Chomisiynydd Plant Cymru a'r holl lysgenhadon eraill’

‘Teimlo'n arbennig ac yn bwysig’

‘Rydw i wrth fy modd yn newid pethau yn ein hysgol ni, achos bod hynny'n golygu mod i wedi gwneud rhywbeth er eu lles nhw’

‘Y peth da am fod yn llysgennad yw meddwl am syniadau da’

‘dylen ni gael mwy o gyfarfodydd!’

‘Gallen ni gael mwy o gyfarfodydd. Sicrhau bod plant bach yn chwarae rhan er mwyn eu helpu pan fyddan nhw'n hŷn’

Bydd Cyfarfodydd rhanbarthol nesaf y Llysgenhadon ym Mehefin 2011, ac rydyn ni'n gobeithio bydd ein holl lysgenhadon yn gallu bod yno!



 

 
 

Dolenni Cymdeithasol