Cyngor a Chymorth
Mae’r gwasanaeth Cyngor a Chymorth i blant a phobl ifanc, a’r bobl sy’n poeni amdanyn nhw er mwyn bod o gymorth pan nad oes neb arall yno i helpu.
Mae’r Swyddogion Cyngor a Chymorth yn derbyn galwadau ffôn, negeseuon testun, e-byst a llythyron oddi wrth blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi ceisio datrys problem ond wedi methu. Dyw ein swyddogion ni ddim yn gynghorwyr ond maent yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion er mwyn datrys y broblem. Os na fedrwn ni helpu yn fe wnewn ni'n gorau i ddarganfod sefydliad sy'n medru rhoi help llaw.
Os ydych am siarad gyda swyddfa’r Comisiynydd dyma sut i gysylltu.
Plant a Phobl Ifanc
Gwybodaeth bwysig
Rydyn ni bob amser yn gofalu ein bod ni’n trin pob plentyn a pherson ifanc â pharch. Rydyn ni hefyd yn sicrhau ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu â ni yn breifat, oni bai ein bod ni’n meddwl eich bod chi neu blentyn neu berson ifanc arall ddim yn ddiogel – wedyn byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i’ch amddiffyn. Os bydd angen i ni rannu’r wybodaeth gyda phobl eraill a allai helpu, byddwn ni’n dweud wrthych chi beth rydyn ni’n ei wneud a pham rydyn ni wedi penderfynu gwneud hynny.
Manylion cysylltu
Rhadffôn: 0808 801 1000
Rhad tecst: 80800 (dechreuwch eich neges gyda COM)
E-bost: cyngor@complantcymru.org.uk
Rhadbost: Comisiynydd Plant Cymru
Rhadbost RRGL XLYC BHGC
Abertawe
SA7 9FS
Ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener oni bai am Wyliau Banc o 9yb – 5yp
Oedolion
Gwybodaeth bwysig
Mae Comisiynydd Plant Cymru a’i staff yn rhoi ar waith Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, ac mae polisi cyfrinachedd y sefydliad yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau hyn.
Byddwn yn trin pob plentyn neu berson ifanc â pharch ac yn amddiffyn eu preifatrwydd oni bai bod angen rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill er mwyn diogelu lles plentyn neu berson ifanc. Mae plant a phobl ifanc yn cael gwybod hyn pryd bynnag y byddant yn dechrau datgelu gwybodaeth a allai ddangos eu bod nhw, neu blentyn arall, mewn perygl o niwed sylweddol.
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cynnig cyfrinachedd llwyr i blant a phobl ifanc lle bernir nad oes perygl o niwed sylweddol (h.y. niwed corfforol sylweddol, niwed rhywiol, niwed emosiynol neu esgeulustod, fel y diffiniwyd yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008) i’r plentyn neu’r person ifanc sydd mewn cyswllt uniongyrchol â’r swyddfa neu unrhyw blentyn neu berson ifanc arall sydd dan sylw.
Manylion cysylltu
Ffôn: 01792 765600
E-bost: cyngor@complantcymru.org.uk
Ysgrifennwch: Comisiynydd Plant Cymru
Tŷ Ystumllwynarth
Llys Siarter
Phoenix Way
Llansamlet
Abertawe
SA7 9FS
Ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener oni bai am Wyliau Banc o 10yb – 1yp
Taflennu Codi Cwyn
Mae llawer o'r alwadau rydym ni'n derbyn yn dod oddi wrth plant a phobl ifanc sy'n gofyn wrthym sut mae gwenud cwyn. Dyma rhestr o linciau i daflennu "Sut i Gwyno" ry'n ni'n danfon i blant, pobl ifanc ac oedolion yn aml.
Taflen Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (yn Saesneg yn unig)
Llywodraeth Cynulliad Cymru