Byddwn ni'n gwrando ar...
BYDDWN NI’N GWRANDO AR…
…blant, pobl ifanc, eu teuluoedd a phobl sy’n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan i ofalu nad ydyn ni’n colli dim. Bob blwyddyn byddwn ni’n penderfynu ar y prif bethau byddwn ni’n gweithio, gan wneud yn siŵr bod ein hamserlen yn hyblyg. Mae hyn yn golygu, os bydd pobl yn rhannu problemau gyda ni, y bydd gennym ni amser a phobl i weithio gydag eraill i ddod o hyd i atebion.