Blog Keith
Deg mlynedd ymlaen
2 Tachwedd 2011Deg mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd adroddiad nodedig ar y camdriniaeth helaeth a oedd wedi digwydd yn y system ofal yng Ngogledd Cymru. Ymhlith ei 72 argymhelliad roedd galwad i sefydlu Comisiynydd Plant Cyntaf y DU yng Nghymru; pencampwr annibynnol i amddiffyn a hyrwyddo hawliau a lles plant Cymru. Ar 5 Hydref 2011, cefais fy hun [...]
Colomennod yn ymosod ym mhrosiect diweddaraf UsUnLtd
30 Medi 2011“Beth sydd trwy fan hyn?” gofynnais i. “Sa i’n siŵr” daeth yr ateb: ”A sa i’n gwybod gan bwy mae’r tortsh, ond well i ni edrych”. Mewn â ni i’r lle tywyll a hedfanodd tair colomen allan tuag aton ni. Roedd fel golygfa o ffilm Alfred Hitchcock. Dihangodd y colomennod trwy ffenest oedd wedi torri [...]
Rhan ohono i
26 Medi 2011Weithiau pan fyddwn ni wrthi’n trafod pwysigrwydd gwrando ar farn plant a phobl ifanc, byddwn ni’n sôn am leisiau plant. Weithiau gallwn ni gymryd hynny braidd yn rhy lythrennol, fel pe na bai modd i ni gasglu eu barn ond trwy’r gair llafar mewn cyfarfod neu sgwrs, neu’r gair ysgrifenedig mewn ymateb i holiadur. Pan [...]
Llysenw ysgol
6 Medi 2010Pan oeddwn i’n ifancach, fy llysenw yn yr ysgol oedd KT. Un diwrnod cofiadwy, roedden ni’n chwarae pêl-droed ar iard yr ysgol. Daeth y bachgen yma’n pelto lawr yr asgell, gyda’r bêl wrth ei draed. Fel roedd e ar fin saethu am y gôl, dyma fi’n rhoi fy nhroed mewn i’w daclo. Rwy’n dal i [...]
“Beth yw pobl anabl?”
2 Gorffennaf 2010Fe dreuliais i fore gwych ym Mharc y Gnoll yn Her Ysgolion Local Aid yr wythnos hon. Mae’r digwyddiad yn para ar hyd yr wythnos, ac mae wedi cael ei gynnal ers ugain mlynedd neu fwy. Rydyn ni wedi mwynhau diwrnodau lu o heulwen di-dor, felly roeddwn i’n synnu braidd i weld y glaw, ond [...]