Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Beth yw Ateb nol?

Un o dasgau pwysicaf Keith, fel Comisiynydd Plant Cymru, yw gwrando ar safbwyntiau a barnau plant a phobl ifanc.

Mae Ateb nôl yn un o’r ffyrdd a ddefnyddiwn i gael gwybod yr hyn y mae plant a phobl ifanc ym mhob cwr o Gymru’n ei feddwl. Gofynnwn gwestiynau Ateb nôl am wahanol bethau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc er mwyn cael gwybod beth maen nhw’n ei feddwl amdanynt, er mwyn i ni allu cynnwys eu barnau a’u syniadau yn ein gwaith.

Mae cwestiynau Ateb nôl yn newid trwy’r amser er mwyn gwneud yn siŵr fod Keith a’r tîm yn dod i wybod beth mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl am lawer o wahanol bethau.

Rydym yn darllen pob ateb yn Ateb nôl ac rydym yn eu defnyddio nhw yn ein gwaith. Os hoffech wybod mwy am yr hyn rydym ni wedi’i wneud â’r wybodaeth o gwestiynau Ateb nôl, cymerwch olwg ar dudalen adrodd yn ôl Ateb nôl.

 
 

Dolenni Cymdeithasol