Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Beth rydym yn ei wneud?

KurdishPolishSomaliTurkishVietnameseArabicBengaliCantoneseFarsiPunjabi

Mae gan sawl gwlad Gomisiynydd ac mae gan bob un ohonynt swyddi ychydig yn wahanol, ond mae pob un ohonynt yn gweithio i wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag niwed a bod cynifer o bobl â phosibl yn gwybod am hawliau plant.

Dyma rai o’r pethau y mae Keith a’i staff yn ei wneud i blant a phobl ifanc Cymru:

  • Dweud wrth bawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc, am y Comisiynydd ac am hawliau plant
  • Cwrdd â phlant a phobl ifanc a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud am faterion sy’n effeithio arnynt
  • Siarad â phlant a phobl ifanc am waith y Comisiynydd, beth arall maen nhw’n meddwl y dylai wneud a sut y dylai wneud
  • Edrych ar waith sefydliadau fel cynghorau ac ymddiriedolaethau iechyd i weld a ydyn nhw’n meddwl am hawliau plant
  • Dweud wrth bobl a all wneud gwahaniaeth yr hyn sy’n bwysig i blant a phobl ifanc a sut i wella pethau
  • Rhoi cyngor a gwybodaeth i blant ac oedolion sy’n cysylltu â thîm y Comisiynydd.
 
 

Stwff arall

Hia! Os wyt ti'n edrych ar y dudalen hon dyma fwy o bethau falle fydde ti'n hoffi!

 
 

Dolenni Cymdeithasol