Ateb nol

Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, eisiau gwybod beth sy’n bwysig i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae e eisiau gwybod beth rydych chi’n meddwl, fel bod e’n gallu defnyddio’ch syniadau chi mewn adroddiadau a rhannau eraill o’i waith. Bydd e hefyd yn gwneud yn siŵr bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn gwybod sut rydych chi’n teimlo.
Mae lot o bobl o wledydd tramor yn dod i Gaerdydd yn yr haf i drafod pa mor bwysig yw chwarae i blant. Mae Keith yn mynd yno i siarad am beth mae plant yng Nghymru yn feddwl o chwarae. Felly, ry' ni am glywed wrthych chi fel bod Keith yn gallu rhannu'r wybodaeth gyda'r bobl bwysig.
Bydd y cwestiynau ar-lein tan 01 o Fehefin, felly peidiwch ag anghofio dweud wrth eich ffrindiau am ateb nhw hefyd!
Bydd tîm Keith yn darllen yr holl atebion, a byddwn ni’n eu defnyddio yn ein gwaith. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud gyda gwybodaeth o gwestiynau Atebnôl, edrychwch ar dudalen adborth Atebnôl.