Arsylwadau Casglu ar CCUHP
Ym mis Mehefin 2008, cyfarfyddodd elusennau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac ar eu cyfer, Comisiynwyr Plant y DU a rhai plant a phobl ifanc gyda Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Darllenwch adroddiad ar y cyd y Comisiynwyr Plant fan hyn
Darllenwch am y plant a’r bobl ifanc a gyfarfyddodd â’r Pwyllgor fan hyn.
Er mwyn gweld clipiau DVD o’r broses adrodd, ewch i wefan Draig Ffynci
Ym mis Medi 2008, aeth Llywodraeth y DU i ateb cwestiynau Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig am hawliau plant yn y DU.
Ar ôl i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig glywed gan bawb, gwnaethant restr o bethau y maen nhw’n meddwl y mae angen eu newid i ddiogelu hawliau plant yn y DU. Gelwir y rhain yn Arsylwadau Casglu.
Ym mis Hydref 2008, gwnaeth Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig 124 o argymhellion yn eu Harsylwadau Casglu.
Roedd rhai o’u hargymhellion yn gofyn i’r llywodraeth
- wneud cyfraith sy’n golygu bod cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon
- edrych ar ba mor effeithiol y mae gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs)
- codi’r oedran y mae cyfraith droseddol yn berthnasol i blant
- gwneud yn siŵr fod plant sy’n geiswyr lloches sy’n dod i’r DU heb oedolyn yn cael gwarcheidwad i ofalu amdanynt
- gwneud rhywbeth am yr holl straeon negyddol am blant, yn enwedig ar y teledu
- gwneud yn siŵr y gall plant gymryd mwy o ran ym mhob rhan o’u haddysg
Er mwyn darllen yr arsylwadau casglu’n llawn – cliciwch fan hyn
Bydd adroddiad nesaf llywodraeth y DU i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn 2014.
Un o dasgau Keith fel Comisiynydd Plant Cymru yw gwneud yn siŵr fod y newidiadau yn yr Arsylwadau Casglu’n cael eu gwneud gan y llywodraeth.