Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Mwy am Keith

Ffeil o Ffeithiau

Enw llawn: Keith John TowlerKeith at Senedd

Llysenw(au): KT

Ble cawsoch chi’ch geni? Llundain

Statws Priodasol: Priod

Addysg: Ysgol Uwchradd Llanedeyrn a Choleg Celf a Dylunio Exeter

Arwydd Sêr: Capricorn

Anifeiliaid Anwes: Un Ci o’r enw Jem a dwy gath, Patch a Maori

Munud o Enwogrwydd: Gollais i ddiod dros Pierce Brosnan unwaith

Sut olwg sydd arnoch chi? Mae gen i lygaid glas, gwallt brown byr, ac rwy’n credu mod i’n eitha tal.

Hobïau: Rydw i’n hoffi arlunio, tynnu lluniau, garddio a mynd â’r ci am dro

Beth ydych chi’n gwneud yn eich amser rhydd? Pa amser rhydd?

Ers pryd ydych chi’n Gomisiynydd Plant Cymru? Ers dydd Gŵyl Dewi 2008

Beth ydych chi’n mwynhau fwya am eich swydd? Cwrdd â phlant a phobl ifanc i glywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweudwww.andrewmccutcheon.co.uk

Beth dydych chi ddim yn ei hoffi fwyaf am eich swydd? Yr holl gyfarfodydd mae rhaid i fi fynd iddyn nhw

Tasech chi’n gallu cael unrhyw bŵer arbennig, beth fydde fe? Gallu hedfan fel Superman

Pa ganeuon ydych chi’n gwrando arnyn nhw fwya ar eich chwarewr mp3? Unrhyw beth gan Eric Clapton neu’r Stereophonics

Ffefrynnau:

Hoff le i fod: Gartre

Bwyd: Cyw iâr

Ffilm: The Shawshank Redemption

Lliw: Glas

Band/Canwr: Eric Clapton

Cân: Handbags and glad rags gan y Stereophonics

Tîm: Tîm Rygbi Cymru

Dyfyniad: ‘Injustice anywhere is a threat to justice everywhere’ Martin Luther King

Gwyliau: Gwyliau’r haf, unrhyw le twym a heulogIce Cream

Blas hufen iâ: Fanila

Arogl: Mefus ffres

Losin/Siocled: Cadbury fruit and nut

Dinas: Barcelona

Cymeriad Cartŵn: Top Cat

Llyfr: Dydw i ddim yn credu bod gen i un, ond dwi’n hoffi hunangofiannau

Naill ai neu…

Cath neu Gi? Ci

Llonydd neu Nwyog? LlonyddCoffee

Te neu Goffi? Coffi

Melys neu Sawrus? Sawrus

Saws coch neu Saws brown? Saws brown

Bwyd Tsieineaidd neu Indiaidd? Indiaidd

Spiderman neu Superman? Superman!

Pen neu Bensil? Pensil

Pasta neu Pizza? Pizza

Halen a Finegr neu Gaws ac Wnionod? Caws ac Wnionod

Sglodion neu Reis? Sglodion

Pêl-droed neu Rygbi? O, mae hwnna’n galed… Rygbi

Traeth neu Fynydd? Mynydd

Coginio neu Arlunio? Arlunio

Odrifau neu Eilrifau? Dwy ddim yn credu mod i’n meddwl am y peth.

Ffilmiau neu Lyfrau? Llyfrau

 
 

Dolenni Cymdeithasol