Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Amdanon Ni

Pwy yw Comisiynydd Plant Cymru?

KurdishPolishSomaliTurkishVietnameseArabicBengaliCantoneseFarsiPunjabi

Keith Towler yw Comisiynydd Plant Cymru. Gwaith Keith yw sefyll i fyny a siarad ar ran plant a phobl ifanc. Mae’n gweithio i wneud yn siwr fod plant a phobl ifanc yn cael eu cadw’n ddiogel a’u bod yn gwybod eu hawliau ac yn gallu eu defnyddio.

Mae’n rhaid i Keith ystyried hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei holl waith. Golyga hyn fod cryn dipyn o waith i’w wneud felly mae gan Keith dîm o bobl yn ei helpu. Maent yn gweithio o ddwy swyddfa, un yn Abertawe ac un ym Mae Colwyn.

Pam y mae gennym Gomisiynydd Plant yng Nghymru?

Ymgyrchodd sefydliadau plant yng Nghymru am Gomisiynydd plant am dros 10 mlynedd. Roedd gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol yn frwd o blaid y syniad hefyd. Roeddent am gael rhywun a fyddai’n siarad ar ran hawliau plant a phobl ifanc ac yn helpu eu diogelu.

Ar ddechrau 2000, cyhoeddodd Syr Ronald Waterhouse ei adroddiad ‘Ar Goll mewn Gofal’ ar ôl ymchwiliad hir i gam-drin plant mewn cartrefi plant yng Ngogledd Cymru. Argymhellodd fod Cymru’n cael Comisiynydd Plant er mwyn ceisio atal pethau felly rhag digwydd eto. Cyflymodd hyn yr ymgyrch a phasiwyd deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU yn San Steffan i greu’r swydd a rhoi’r grymoedd angenrheidiol iddi.

Eisiau mwy o wybodaeth?

 
 

Stwff arall

Hia! Os wyt ti'n edrych ar y dudalen hon dyma fwy o bethau falle fydde ti'n hoffi!

 
 

Dolenni Cymdeithasol