Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Adrodd nol Ateb nol

Diolch am eich holl atebion!

Bagiau Plastig

Yn ystod mis Gorffennaf roedd cwestiynau Atebnôl yn trafod codi tâl am fagiau plastig a diogelu’r amgylchedd. Dyma grynodeb o’r pethau ddwedsoch chi wrthon ni:

• Roeddech chi i gyd yn meddwl bod e’n syniad da codi tâl am fagiau plastig

• Fe ddwedsoch chi wrthon ni fod bagiau plastig ddim yn dda i’r amgylchedd, ac y byddai’n dda lleihau’r nifer ohonyn nhw sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru

• Mae’r rhan fwya ohonoch chi’n meddwl y dylai’r tâl amdanyn nhw fod yn fwy na 7c

• Dwedodd y rhan fwya ohonoch chi y byddai codi tâl amdanyn nhw’n golygu eich bod chi’n rhoi’r gorau i fagiau un defnydd, ac yn fwy tebygol o ailddefnyddio bagiau eraill

• Roeddech chi i gyd yn meddwl bod gwario’r arian fyddai’n dod o godi tâl am fagiau plastig ar brosiectau amgylcheddol yng Nghymru yn syniad da

• Roeddech chi i gyd yn meddwl bod ailgylchu naill ai’n bwysig neu’n bwysig iawn

• Dwedodd y rhan fwya ohonoch chi wrthon ni eich bod chi’n ailgylchu gartre ac yn yr ysgol

Fe wnaethon ni ofyn y cwestiynau Atebnôl yma oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn meddwl am godi tâl ar bobl am fagiau plastig. Roedden nhw eisiau gwybod barn pobl am y syniad yma. Fe wnaethon ni ddefnyddio’ch atebion chi i’r rownd yma o gwestiynau Atebnôl yn ein hymateb ni i’r llywodraeth, a byddwn ni hefyd yn defnyddio’ch sylwadau mewn unrhyw waith rydyn ni’n ei wneud ar yr amgylchedd yn y dyfodol.

 
 

Dolenni Cymdeithasol