Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Adolygiad o Eiriolaeth

Mae Keith wedi penderfynu defnyddio'i bwerau statudol am y tro cyntaf fel Comisiynydd Plant i adolygu'r ddarpariaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, rhai sy'n gadael gofal a phlant mewn angen.

Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Plant 1989, a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, mae dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i ddarparu ‘llais’ proffesiynol annibynnol, sydd hefyd yn cael ei alw'n eiriolwr, i bob plentyn a pherson ifanc sy'n derbyn gofal, i bawb sy'n gadael gofal ac i bob plentyn mewn angen sydd eisiau cyfrannu ym mhenderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Dylai eiriolwyr gael eu darparu hefyd os yw’r plentyn neu’r person ifanc am wneud cwyn.

Mi fydd Keith yn defnyddio'i bwerau a swyddogaethau sy'n deillio o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 i adolygu trefniadau Gweinidogion Cymru a holl awdurdodau lleol Cymru o ran gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol annibynnol. Bydd yn ceisio canfod a yw'r trefniadau'n effeithiol, ac i ba raddau, wrth ddiogelu a hybu hawliau a lles plant a phobl ifanc.

Am gopi o gylch gorchwyl yr adolygiad cliciwch yma.

 
 

Dolenni Cymdeithasol