Blog Keith

Archif ar gyfer ‘Heb Gategori’ Categorïau

Deg mlynedd ymlaen

Dydd Mercher, Tachwedd 2, 2011

Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a disgyblion Willows High School yn ymuno yn y dathliadau penblwydd.

Deg mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd adroddiad nodedig ar y camdriniaeth helaeth a oedd wedi digwydd yn y system ofal yng Ngogledd Cymru. Ymhlith ei 72 argymhelliad roedd galwad i sefydlu Comisiynydd Plant Cyntaf y DU yng Nghymru; pencampwr annibynnol i amddiffyn a hyrwyddo hawliau a lles plant Cymru.

Ar 5 Hydref 2011, cefais fy hun yn sefyll fel Comisiynydd Plant Cymru, yn dathlu 10 mlwyddiant y Swyddfa yn y Senedd, yng nghanol ffrindiau, cydweithwyr a rhai oedd am ddymuno’n dda i ni. Roeddwn yn sefyll nesaf at Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF, cwnsler Clywch, ymchwiliad cyntaf y Swyddfa hon, a arweiniwyd gan fy rhagflaenydd. Rhoddodd anerchiad rymus a oedd nid yn unig yn talu teyrnged i waith fy rhagflaenydd, y diweddar Peter Clarke, ond hefyd yn rhoi trosolwg o gyflawniadau’r Swyddfa hyd yma. Cefais fy llenwi ag ymdeimlad o falchder ac anrhydedd aruthrol yn sgîl yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni fel Swyddfa ac fel gwlad o ran gwireddu hawliau plant. Roeddwn i hefyd yn teimlo dyletswydd enfawr i ddiogelu beth sydd gennym ni, ac i sbarduno rhagor o newid.

Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF yn siarad yn lansiad fy adroddiad blynyddol.

Yn gynharach yn y dydd roeddwn i wedi gwahodd 60 o fyfyrwyr o bum ysgol uwchradd i ymuno yn fy nathliadau. Daethon nhw ynghyd i Siambr Hywel, yn awyddus i gael lleisio barn, ac i gael sesiwn holi ac ateb gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Roedd eu cwestiynau’n amrywio o, “Fyddech chi’n ystyried gostwng yr oedran pleidleisio i 16?” i “Beth yw’r peth anoddaf am fod yn Brif Weinidog Cymru”. Buon nhw hefyd yn cymryd rhan mewn pleidlais electronig lle dywedodd 66% eu bod yn credu bod oedolion a phobl oedd yn gwneud penderfyniadau yn gwrando mwy arnyn nhw nawr nag mewn blynyddoedd blaenorol. Ond dim ond 37% oedd yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau yn eu hysgolion, ac roedd cyfanswm anferth o 86% yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau yn eu cymuned.

Mae’r materion a godwyd gan y grŵp yma o bobl ifanc yn bwysig i’n hatgoffa bod llawer i’w wneud o hyd i wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Roedd 5 Hydref yn nodi nid yn unig 10 mlwyddiant y swyddfa, ond hefyd ddyddiad lansio fy mhedwerydd adroddiad blynyddol fel Comisiynydd Plant Cymru. Roedd hynny’n gyfle pwysig i mi dynnu sylw at yr holl feysydd sy’n achosi’r pryder mwyaf i fi o ran plentyndod yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy’n hoffi ei weld fel golwg ar sefyllfa’r genedl ar gyfer ymarferwyr a llunwyr polisi fel ei gilydd.

Disgyblion yn trafod y materion sydd yn effeithio nhw.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld datblygiadau pwysig yng Nghymru, gyda Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gerrig milltir pwysig. Mae’r consensws ar draws y pleidiau yn y Cynulliad ynghylch pwysigrwydd hawliau plant, a’r amlygrwydd cynyddol a roddwyd i hynny mewn canllawiau a rheoliadau, hefyd i’w groesawu.

Ond gwireddu uchelgais yw’r her i ni yng Nghymru. Yn y gorffennol rwyf wedi sôn am y bwlch gweithredu, ac mae hynny’n parhau – ond gallai fod o fudd i ni edrych eto ar ystyr hynny i’r plentyn.

Pa elfennau sy’n arwain at ganlyniadau anghyfartal, a beth yw’r canlyniadau anghyfartal hynny? Mae angen i ni eu hwynebu’n gadarn.

Yn adroddiad blynyddol eleni roeddwn yn galw yn bennaf ar Lywodraeth newydd Cymru a darparwyr gwasanaethau yn gyffredinol i gymryd stoc o sut rydyn ni’n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i blant a phobl ifanc. Mae gennym bolisïau a strategaethau o’r radd flaenaf yng Nghymru, ond nid wyf wedi fy narbwyllo eto eu bod yn strategaethau sydd yn gweithio gyda’i gilydd ac yn gweithio’n ymarferol i wella bywydau plant. Yn rhy aml bydda i’n clywed gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n cael trafferth i sicrhau help a chefnogaeth.

Mae arnom angen i’r strategaethau hyn ganolbwyntio ar agenda arfer a chanlyniadau trwy sicrhau bod gan y gweithlu y cyfarpar priodol. Mae angen hefyd i ni sicrhau ein bod ni’n gallu galw darparwyr gwasanaethau i gyfrif pan na chyflawnir y safonau y dylem i gyd fod yn anelu atynt.

Mae ymroddiad a sgiliau gweithwyr proffesiynol yn amlwg i bawb, ond mae angen harneisio’r egni hwnnw, fel bod modd i holl blant Cymru gyflawni eu potensial llawn.

I weld copi o’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, cliciwch isod:

Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau »

Colomennod yn ymosod ym mhrosiect diweddaraf UsUnLtd

Dydd Gwener, Medi 30, 2011

“Beth sydd trwy fan hyn?” gofynnais i. “Sa i’n siŵr” daeth yr ateb:  ”A sa i’n gwybod gan bwy mae’r tortsh, ond well i ni edrych”. Mewn â ni i’r lle tywyll a hedfanodd tair colomen allan tuag aton ni.

Roedd fel golygfa o ffilm Alfred Hitchcock. Dihangodd y colomennod trwy ffenest oedd wedi torri – fel roedden nhw wedi dod i fewn yn y lle cynta, siŵr o fod. Ar ôl tipyn o weiddi roedden ni nôl lawr llawr gyda hanesion oedd yn gorddweud mwy a mwy sut roedd y colomennod bron wedi’n “darnio”.

Roeddwn i’n ymweld ag Us UnLtd yn Fflint. Maen nhw’n rhan o fenter sy’n cael ei gyrru mlaen gan Llamau, elusen i’r digartref sy’n gweithio i helpu grŵp o bobl ifanc ddigartref i weithredu fel entrepreneuriaid a chreu eu dyfodol eu hunain. Gweledigaeth Us UnLtd yw grymuso pobl ifanc ddigartref yn Sir y Fflint. Datblygodd y pobl ifanc cynllun busnes ar gyfer siop, canolfan i ddarparu hyfforddiant sgiliau a dysgu, caffe a llety, gyda chyfle i ddysgu sgiliau bywyd pwysig.

Os rhown ni’r colomennod o’r neilltu am y tro, mae bellach yn flwyddyn ers i mi gwrdd â’r bobl ifanc yma am y tro cyntaf, ac mae eu siop nawr ar agor yn Fflint.

Mae’n wych dal i fyny gyda’r bobl ifanc a gweld y cynnydd rhyfeddol maen nhw wedi ei wneud. Mae’r siop yn gwerthu nifer o eitemau, ond mae’r gwasanaeth argraffu crysau-T yn arbennig o lwyddiannus.

Fe wnes i fanteisio ar y cyfle i archebu crys-T unigryw oedd yn cynnwys fy newis o luniau. Felly ar y blaen mae logo Us UnLtd:

Ac ar y cefn mae teisen yn dathlu 10fed pen-blwydd Comisiynydd Plant Cymru:

 

Rwy’n siŵr y cytunwch chi i gyd fod hynny’n eitha cŵl. Os bydd angen argraffu crysau-T arnoch chi unrhyw bryd, dyma’r busnes i chi – mae croeso i bob archeb, ac mae’r holl elw yn cael ei fuddsoddi yn y fenter gymdeithasol er mwyn cynyddu’r gallu i gynnal pobl ifanc ddigartref yn Sir y Fflint.

Felly beth oedd hanes ymosodiad y colomennod? Wel, roeddwn i’n ymweld â phrosiect nesaf Us UnLtd, sef troi adeilad gyferbyn â’r siop yn ganolfan newydd i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu. Mae’r ceisiadau am grantiau wedi cael eu cyflwyno, ac mae bysedd pawb wedi eu croesi. Bydd angen llawer o waith i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd y safon, ond mae potensial aruthrol, a mae hyn i gyd yn cael ei sbarduno gan allu creadigol, gweledigaeth a gwaith caled Us UnLtd.

Rydw i wedi cwrdd â rhai o’r bobl ifanc sy’n ymwneud ag UsUnLtd ambell waith o’r blaen, ac o bryd i’w gilydd bydd neges ar Twitter yn rhoi gwybod i mi am eu camau diweddara. Mae’r holl bobl ifanc yno wedi llwyddo i oresgyn rhai pethau anodd yn eu bywydau. Maen nhw i gyd yn wynebu heriau sy’n parhau wrth iddyn nhw adeiladu bywydau iddyn nhw eu hunain, gan sefydlu cartrefi, dod o hyd i waith, a mynd i’r coleg i sicrhau cymwysterau, i enwi ond tri pheth. Ar ben hynny, maen nhw’n rhoi eu amser i adeiladu menter gymdeithasol Us UnLtd.

“Rydyn ni i gyd eisiau adeiladu rhywbeth fydd yn helpu eraill sy’n wynebu’r un peth ag  roedden ni.”

Mae gan lawer o bobl yn y byd uchelgais, ond nid pawb sy’n gallu dyfalbarhau a’i chyflawni. Mae Us UnLtd yn eitha penderfynol, ac mae eu cynnydd yn ystod y 12 mis diwethaf wedi bod yn anhygoel.

Y tro nesa byddwch chi yn Fflint, galwch heibio i’w gweld nhw ar Stryd yr Eglwys. Rwy’n gwybod y byddan nhw wrth eu bodd yn eich gweld ac maen nhw’n haeddu pob cefnogaeth.

Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau

Rhan ohono i

Dydd Llun, Medi 26, 2011

Weithiau pan fyddwn ni wrthi’n trafod pwysigrwydd gwrando ar farn plant a phobl ifanc, byddwn ni’n sôn am leisiau plant. Weithiau gallwn ni gymryd hynny braidd yn rhy lythrennol, fel pe na bai modd i ni gasglu eu barn ond trwy’r gair llafar mewn cyfarfod neu sgwrs, neu’r gair ysgrifenedig mewn ymateb i holiadur.

Pan adewais i’r ysgol uwchradd fe wnes i radd mewn celfyddyd gain, ac rwy’n dal i gredu mai darluniau yw pinacl mynegiant artistig. Galla i edrych ar ddarlun gan Whistler, Turner, Hockney neu Banksy a ‘chlywed’ y neges. Galla i weld a theimlo eu hymateb i’r byd o’u cwmpas.

Digwyddodd hynny hefyd yn arddangosfa ‘Rhan ohono i’ (‘A Piece of Me’), a gynhaliwyd gan Wasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru, sef rhaglen o gymorth dwys ar gyfer plant a phobl ifanc 10 i 18 oed sydd naill ai mewn perygl o gael eu cam-drin drwy ecsbloetio rhywiol neu sydd eisoes wedi diodde hynny. Mae’r prosiect, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei arddangos yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Mae’n cynnwys ffilm, celf, animeiddio, cerddoriaeth, barddoniaeth a storïau gan bobl ifanc sydd wedi derbyn cymorth gan Wasanaeth Seraf.

Roeddwn i’n falch iawn o gael yr anrhydedd o agor yr arddangosfa. Mae celf yn annog rhyddid mynegiant, ac mae’r arddangosfa hon yn llefaru wrth bawb sy’n barod i glywed a gwrando. Mae’n gam dewr, ac rwy’n gobeithio bydd cynifer o bobl â phosib yn gweld y gwaith sy’n cael ei arddangos.

Hoffwn ddiolch i’r holl bobl ifanc a staff Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru, a hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru am ariannu prosiect mor werth chweil.  

Roedd y gwahoddiad yn disgrifio ‘Rhan ohono i’ (‘A Piece of Me’) fel:

“Arddangosfa bwerus sy’n herio ein meddyliau a’n canfyddiadau trwy lygaid profiadau pobl ifanc. Mae’n amhosib gadael yr arddangosfa heb gael eich cyffwrdd.”

Yn ôl unrhyw ddiffiniad dyma gelfyddyd a mynegiant creadigol sy’n lleisio profiadau plant a phobl ifanc. Mae’n rymus iawn, a byddwn yn eich annog i fynd i’w gweld, naill ai yn y Bae neu pan fydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Mae’r sioe gyfan yn gryf iawn, ond siaradodd tri darn o waith yn arbennig â mi:

 

Y darlun yma yw’r poster ar gyfer yr arddangosfa. Mae’n dangos plentyn yn crio ar y tu mewn.

 

Yr enw ar y darn yma yw ‘Gwaed Oer’ (‘Blood run cold’) ac mae’r capsiwn o dano yn dweud: “Rai nosweithiau rwy’n deffro ac mae fy ngwaed yn rhedeg yn oer wrth gofio rhai o’m profiadau.”

 

Yr enw ar y llun yma yw ‘Y Mwgwd’ (‘The Mask’) ac mae’n dangos sut gallwch chi wisgo mwgwd i guddio eich gwir deimladau. Mae rhaid i chi edrych y tu hwnt i’r mwgwd.

Wrth i chi gerdded o gwmpas fe welwch blant a phobl ifanc yn mynegi eu dicter a’u rhwystredigaeth trwy gelfyddyd. Mae’n anghyfforddus mewn mannau. Ond gobaith sydd yn y diweddglo, gan y gwelir y gwytnwch sydd gan blant a phobl ifanc i wneud mwy na goroesi, a chyflawni eu potensial llawn.

Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau

Etholiad Cyffredinol

Dydd Llun, Ebrill 26, 2010

Wrth i’r ymgyrchu fynd yn ei flaen, mae oedolion, ar fwy nag un achlysur, wedi gofyn i mi oes gan bobl ifanc ddiddordeb yn yr Etholiad Cyffredinol. Ar sail fy mhrofiad yn ystod yr wythnosau diwetha, byddwn i’n dweud mai oes yw’r ateb i hynny.

Roedd pobl ifanc ym Mhrif Gyngor y Ddraig Ffynci’n cymryd diddordeb, ac yn gwneud sylwadau ar berfformiadau’r arweinwyr yn y dadleuon ar y teledu. Mae pobl ifanc eraill wedi sôn wrthyf i am i ba raddau mae polisïau’r pleidiau gwleidyddol yn apelio i bobl ifanc.

Ac wedyn heddi, ces i alwad ffôn gan Nathan. Mae Nathan yn 16 oed ac yn awyddus i wybod beth yw barn y pleidiau gwleidyddol ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. “Pe bai’r oedran pleidleisio’n is, falle bydden nhw’n meddwl mwy am y materion sy’n bwysig i bobl ifanc” eglurodd. Roeddwn i’n cytuno, ond dywedais i fod rhai pobl o’r farn nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. “Oes, mae”, atebodd yntau “ac rydw i eisiau gofyn barn y pleidiau am hynny – wyt ti’n meddwl byddan nhw’n gwrando arna i, Keith?”

Fe wnes i ei annog i fynd ati. Wedi’r cyfan, plaid ddewr, neu ffôl o bosib, fyddai’n anwybyddu diddordeb pleidleiswyr ifanc a’r rhai fydd â hawl i bleidleisio ymhen ychydig flynyddoedd. Ers peth amser rydw i wedi clywed pobl yn mynegi rhwystredigaeth oherwydd diffyg ymwneud pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Ymddengys i mi fod yr etholiad yma wedi ennyn diddordeb ymhlith pobl ifanc.

Gostwng yr oedran pleidleisio? Atebion ar gerdyn post, plis. Pryd bynnag rydw i wedi codi hyn o’r blaen gyda phobl ifanc rydw i wedi clywed dadleuon o blaid ac yn erbyn. Yn yr hinsawdd bresennol mae’n ymddangos bod y rhai o blaid yn y mwyafrif.

Yr hyn sy’n eglur yw ei bod hi’n wych bod pobl ifanc fel Nathan yn ymddiddori cymaint mewn gwleidyddiaeth a’r polisïau fydd yn dylanwadu ar eu dyfodol.

Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau

‘Dyn Fan Wen’ Pwysicaf Cymru

Dydd Gwener, Mawrth 26, 2010

Yr wythnos diwethaf, bûm i gynhadledd “Trais mewn Perthnasau” i bobl ifanc yn ne Cymru. Cafodd ei threfnu gan Heddlu De Cymru ac fe’i mynychwyd gan oddeutu 250 o bobl ifanc 14 i 17 oed.

Roedd yn ddiwrnod da iawn. Dechreuwyd y gweithgareddau gan y Prif Gwnstabl Peter Vaughan, a atgoffodd yr holl bobl ifanc ei fod yn hollol annerbyniol i fod yn ddioddefwr mewn perthynas dreisgar. Yn ystod y dydd, cafwyd cyflwyniadau pwerus a theimladwy gan gynnwys drama ryngweithiol gan Gwmni Theatr Geese, tair stori bwerus gan bobl ifanc am eu bywydau go iawn, ac un stori gan Pat, sef oedolyn a gadwodd ei chynulleidfa ar bigau’r drain wrth adrodd hanes emosiynol ei phrofiad ei hun o fod yn ddioddefwraig mewn perthynas dreisgar.

Yn ystod y dydd, gofynnwyd rhai cwestiynau i’r bobl ifanc gan Melvyn a Tam o’r Ddraig Ffynci. Defnyddiodd y cyfranogwyr fysellfyrddau pleidleisio yn eu dwylo i gofrestru eu pleidleisiau. Roedd un o’r cwestiynau’n gofyn i bobl ifanc a oedd rhai o’u ffrindiau erioed wedi bod mewn perthynas gamdriniol.

Cefais sioc o weld 66% yn y bore a 70% yn y prynhawn yn dweud eu bod yn adnabod rhywun yn y sefyllfa honno. Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod atal yn llawer gwell nag ymyrraeth ar ôl y digwyddiad, a diben y gynhadledd oedd codi ymwybyddiaeth pobl ifanc a rhoi hyder iddynt roi gwybod i eraill am y broblem petaent yn gweld eu bod mewn perthynas dreisgar.                   

Yn fy araith fer, llongyfarchais yr Heddlu am drefnu diwrnod mor bwysig. Siaradais am hawliau plant ond cefais sioc o weld dim ond 20 o ddwylo’n codi pan ofynnais i’r bobl ifanc a oeddent yn gwybod am eu hawliau. Yn llawer rhy aml, clywaf y ddadl fod pobl ifanc yn gwybod popeth am eu hawliau a dim byd am eu cyfrifoldebau. Yn amlwg, nid felly y mae hi.  

Yn ffodus, roedd Jamie, Lucy, Mark a Robela y tu allan yn fan arddangos wen y Comisiynydd, felly anogais bawb i ymweld â’r fan i gasglu gwybodaeth ar CCUHP a manylion ar sut y gallent gysylltu â mi petai angen iddynt wneud hynny. Erbyn diwedd y prynhawn, roedd yn amlwg eu bod wedi gwrando ar fy nghyngor, oherwydd bod y ffrisbîs â’n manylion cyswllt arnynt yn hedfan dros bob man.

Arweiniwyd y diwrnod yn fedrus ac yn llawn hiwmor gan Kevin Johns. Ar ôl imi orffen fy sgwrs, fe’m galwodd yn “Ddyn fan wen pwysicaf Cymru”. Dyna ddigywilydd!

Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau