Blog Keith

Archif ar gyfer ‘Plant a Phobl Ifanc Anabl’ Categorïau

“Beth yw pobl anabl?”

Dydd Gwener, Gorffennaf 2, 2010

Fe dreuliais i fore gwych ym Mharc y Gnoll yn Her Ysgolion Local Aid yr wythnos hon. Mae’r digwyddiad yn para ar hyd yr wythnos, ac mae wedi cael ei gynnal ers ugain mlynedd neu fwy. Rydyn ni wedi mwynhau diwrnodau lu o heulwen di-dor, felly roeddwn i’n synnu braidd i weld y glaw, ond wnaeth hynny ddim lleihau brwdfrydedd neb ynghylch y digwyddiad, sy’n un arbennig iawn.

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod am Local Aid, elusen leol ydyn nhw sy’n gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o anghenion a dyheadau pobl ifanc ag anghenion arbennig. Mae’r sefydliad yn darparu offer arbenigol, ac yn trefnu cymorth teithio, gwasanaethau arbenigol a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol mewn cymunedau lleol yng Nghastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe. Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol, ac yn hyrwyddo hawliau unigolion i gael cefnogaeth i gyflawni eu potensial. Maen nhw hefyd yn mynd ati i gefnogi plant a theuluoedd mewn angen, yn ogystal â chynnig hwyl, dewis a chyfle i’r plant a’r bobl ifanc dan sylw.

Felly beth oedd yn digwydd ym Mharc y Gnoll? Pob math o weithgareddau gyda phob math o heriau, a’r cyfan yn yr awyr agored. Roedd y parc yn llawn pobl ifanc gwlyb, mwdlyd, hapus yn cael amser gwych. Roedden nhw’n gwneud cyrsiau antur, yn tynnu rafftiau ar draws y llyn, yn mynd ar weiriau zip a sleidiau dŵr ac yn gwneud pob math o weithgareddau. Roedd pob tîm o bobl ifanc, ac roedd rhyw 400 ohonyn nhw yno y bore hwnnw (2,000 yn ystod yr wythnos) yn cael pwyntiau am gymryd rhan, cwblhau tasgau, ateb cwestiynau a chael y wlychfa fwyaf! Syniad gwych. Mae pob math o sefydliadau’n cefnogi’r digwyddiad. Heddlu, diffoddwyr tân, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, swyddogion prawf, gwirfoddolwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys, athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr chwarae, swyddogion chwaraeon… mae’r rhestr yn ddiderfyn. A phob un ohonynt yn darparu gweithgareddau ar gyfer dysgu a mwynhau.

Fe es i am dro rownd y parc i deimlo’r naws ac i sgwrsio â’r bobl ifanc. Ar un stondin – rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop SNAP Cymru: ‘Her Amrywiaeth’ – roedd grŵp o bobl ifanc yn sefyll o flaen bord yn llawn lluniau o bobl enwog a sêr. Roedd gan bob un o’r bobl yn y lluniau anabledd. “Felly, p’un o’r bobl yma sy’n methu gweld?” holodd y trefnydd. “Wel, swn i’n meddwl mai Stevie Wonder fydde’r person yna” meddai rhywun yn y blaen. “Ti’n iawn, Stevie Wonder yw e, ond dyw hynny ddim wedi’i atal rhag cynhyrchu’r gerddoriaeth orau, ydy e?” Cytunodd pawb. “Sefwch funud” meddai bachgen ar fy llaw chwith “beth yw pobl anabl ta beth?” Trodd ei ffrind ato a dweud “Dyna pwy yn ni!” “O, wi’n gweld.” A chwarddodd pawb.

Fe wnes i siarad â llawer o bobl ifanc, oedd i gyd yn cael amser gwych. Dwy ddim yn gwybod faint o weithiau clywais i fod gwneud pethau yn yr awyr agored yn “cŵl”, “bril”, “hwyl”, “cyffrous”, “mega”. Ond pam mae mor dda? Wel, yr ateb gorau glywais i oedd rhywbeth fel hyn “Wel, rydw i wedi dysgu llwyth, rydw i’n wlyb i’r croen, mae mwd yn fy motwm bol, a bydd isie glanhau fy nghadair olwyn … ond beth yw’r ots!”

Alla i ddim canmol y digwyddiad yma digon. Mae’n wych i gynyddu ymwybyddiaeth o anabledd, ond hefyd i weld bod modd dymchwel rhwystrau i ymwneud a chyfranogiad. Agwedd gadarnhaol yw’r peth hollbwysig, ac mae’r egni positif mae’r digwyddiad yma’n ei gynhyrchu yn siarad drosto’i hun.

Postiwyd yn Chwarae, Cyfranogiad, Plant a Phobl Ifanc Anabl | Dim Sylwadau »