Blog Keith
Archif ar gyfer ‘Cyfranogiad’ Categorïau
Llysenw ysgol
Dydd Llun, Medi 6, 2010
Pan oeddwn i’n ifancach, fy llysenw yn yr ysgol oedd KT. Un diwrnod cofiadwy, roedden ni’n chwarae pêl-droed ar iard yr ysgol. Daeth y bachgen yma’n pelto lawr yr asgell, gyda’r bêl wrth ei draed. Fel roedd e ar fin saethu am y gôl, dyma fi’n rhoi fy nhroed mewn i’w daclo. Rwy’n dal i ddadlau mai’r bêl giciais i gynta, ond mae’n bosib i mi roi cic i’w bigwrn wrth fynd heibio! Wrth iddo hedfan drwy’r awyr, y cyfan gallwn i ei glywed oedd siantio “Towler fowler”!
Felly, pan oeddwn i yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg y diwrnod o’r blaen i wylio DVD o rap cyfranogiad oedd wedi’i greu gan bobl ifanc, fe wnes i chwerthin yn uchel pan berfformion nhw’r llinell “da ni gyd di clywed am Robbie Fowler, ond faint ohonoch chi sy’n nabod Keith Towler”.
Cafodd y DVD ei greu gan grŵp gwych o bobl ifanc ym Mro Morgannwg, ar ôl i ni ofyn iddyn nhw lunio rap dwyieithog i helpu i dynnu sylw at hawliau pobl ifanc yng Nghymru. Nod y rap yw hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a chynyddu ymwybyddiaeth o Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc Cymru. Gydag ychydig o help gan rai o’u tiwtoriaid a gweithwyr ieuenctid, llwyddodd y grŵp i ysgrifennu, recordio a chynhyrchu fideo cerddoriaeth o fewn 4 diwrnod. Mae’n wirioneddol dda, felly cofiwch wneud amser i’w wylio.
Mae cynyddu ymwybyddiaeth am y Confensiwn ymhlith plant a phobl ifanc mor bwysig. Y peth gwych am y DVD yma yw ei fod yn llawn hwyl a gwybodaeth, ac yn hawdd iawn ei wylio. Mae’r ffaith mai pobl ifanc sydd wedi’i baratoi ar gyfer pobl ifanc yn golygu ei fod yn ffres ac yn wych i’w wylio. Rwy’n gobeithio bydd yn cael ei chwarae ym mhob rhan o Gymru.
Roedd yn anrhydedd i mi wylio’r dangosiad cyntaf, a chyflwyno tystysgrifau cyflawniad i’r bobl ifanc oedd wedi ei greu. Efallai bydd angen iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â bod yn sêr nawr, ond rwy’n siŵr byddan nhw’n ymdopi. Roedd myfyrwyr blwyddyn 9 yn y gynulleidfa, ac roedden nhw’n amlwg wrth eu bodd. Ces i bron cymaint o hwyl yn gwylio’r rhai oedd wedi gwneud y ffilm yn anesmwytho wrth iddyn nhw weld eu hunain yn canu a dawnsio. Ond maen nhw wedi gwneud gwaith gwych, a dylen nhw fod yn falch o beth maen nhw wedi’i gyflawni.
Llongyfarchiadau mawr i bawb wnaeth gymryd rhan.
Postiwyd yn Cyfranogiad, Ymweliad Ysgol | Dim Sylwadau »
“Beth yw pobl anabl?”
Dydd Gwener, Gorffennaf 2, 2010
Fe dreuliais i fore gwych ym Mharc y Gnoll yn Her Ysgolion Local Aid yr wythnos hon. Mae’r digwyddiad yn para ar hyd yr wythnos, ac mae wedi cael ei gynnal ers ugain mlynedd neu fwy. Rydyn ni wedi mwynhau diwrnodau lu o heulwen di-dor, felly roeddwn i’n synnu braidd i weld y glaw, ond wnaeth hynny ddim lleihau brwdfrydedd neb ynghylch y digwyddiad, sy’n un arbennig iawn.
I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod am Local Aid, elusen leol ydyn nhw sy’n gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o anghenion a dyheadau pobl ifanc ag anghenion arbennig. Mae’r sefydliad yn darparu offer arbenigol, ac yn trefnu cymorth teithio, gwasanaethau arbenigol a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol mewn cymunedau lleol yng Nghastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe. Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol, ac yn hyrwyddo hawliau unigolion i gael cefnogaeth i gyflawni eu potensial. Maen nhw hefyd yn mynd ati i gefnogi plant a theuluoedd mewn angen, yn ogystal â chynnig hwyl, dewis a chyfle i’r plant a’r bobl ifanc dan sylw.
Felly beth oedd yn digwydd ym Mharc y Gnoll? Pob math o weithgareddau gyda phob math o heriau, a’r cyfan yn yr awyr agored. Roedd y parc yn llawn pobl ifanc gwlyb, mwdlyd, hapus yn cael amser gwych. Roedden nhw’n gwneud cyrsiau antur, yn tynnu rafftiau ar draws y llyn, yn mynd ar weiriau zip a sleidiau dŵr ac yn gwneud pob math o weithgareddau. Roedd pob tîm o bobl ifanc, ac roedd rhyw 400 ohonyn nhw yno y bore hwnnw (2,000 yn ystod yr wythnos) yn cael pwyntiau am gymryd rhan, cwblhau tasgau, ateb cwestiynau a chael y wlychfa fwyaf! Syniad gwych. Mae pob math o sefydliadau’n cefnogi’r digwyddiad. Heddlu, diffoddwyr tân, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, swyddogion prawf, gwirfoddolwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys, athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr chwarae, swyddogion chwaraeon… mae’r rhestr yn ddiderfyn. A phob un ohonynt yn darparu gweithgareddau ar gyfer dysgu a mwynhau.
Fe es i am dro rownd y parc i deimlo’r naws ac i sgwrsio â’r bobl ifanc. Ar un stondin – rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop SNAP Cymru: ‘Her Amrywiaeth’ – roedd grŵp o bobl ifanc yn sefyll o flaen bord yn llawn lluniau o bobl enwog a sêr. Roedd gan bob un o’r bobl yn y lluniau anabledd. “Felly, p’un o’r bobl yma sy’n methu gweld?” holodd y trefnydd. “Wel, swn i’n meddwl mai Stevie Wonder fydde’r person yna” meddai rhywun yn y blaen. “Ti’n iawn, Stevie Wonder yw e, ond dyw hynny ddim wedi’i atal rhag cynhyrchu’r gerddoriaeth orau, ydy e?” Cytunodd pawb. “Sefwch funud” meddai bachgen ar fy llaw chwith “beth yw pobl anabl ta beth?” Trodd ei ffrind ato a dweud “Dyna pwy yn ni!” “O, wi’n gweld.” A chwarddodd pawb.
Fe wnes i siarad â llawer o bobl ifanc, oedd i gyd yn cael amser gwych. Dwy ddim yn gwybod faint o weithiau clywais i fod gwneud pethau yn yr awyr agored yn “cŵl”, “bril”, “hwyl”, “cyffrous”, “mega”. Ond pam mae mor dda? Wel, yr ateb gorau glywais i oedd rhywbeth fel hyn “Wel, rydw i wedi dysgu llwyth, rydw i’n wlyb i’r croen, mae mwd yn fy motwm bol, a bydd isie glanhau fy nghadair olwyn … ond beth yw’r ots!”
Alla i ddim canmol y digwyddiad yma digon. Mae’n wych i gynyddu ymwybyddiaeth o anabledd, ond hefyd i weld bod modd dymchwel rhwystrau i ymwneud a chyfranogiad. Agwedd gadarnhaol yw’r peth hollbwysig, ac mae’r egni positif mae’r digwyddiad yma’n ei gynhyrchu yn siarad drosto’i hun.
Postiwyd yn Chwarae, Cyfranogiad, Plant a Phobl Ifanc Anabl | Dim Sylwadau »
Dwyn y sylw i gyd
Dydd Gwener, Mawrth 12, 2010
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod i ddau ddigwyddiad lle llwyddodd plant o ddwy Ysgol Gynradd i ddwyn y sylw i gyd.
Y cyntaf oedd lansio gwefan Cyfranogiad Disgyblion Cymru Llywodraeth y Cynulliad: www.llaisdisgyblioncymru.org.uk, a gynhaliwyd gan Ysgol Gynradd Kitchener yng Nghaerdydd. Croesawodd y Pennaeth bawb oedd yn bresennol i’r ysgol, ac roedd anerchiadau byr gan Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant a gennyf i. Roedd Joe Ledley, y pêl-droediwr sy’n chwarae i Ddinas Caerdydd a Chymru, yno hefyd. Roeddwn i’n falch iawn o fod yno, ac fe wnes i longyfarch Llywodraeth Cymru ar symud ymlaen gyda hyn. Pan gyhoeddodd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn eu sylwadau terfynol neu eu hargymhellion ar gyfer y DU, fe wnaethon nhw bwysleisio bod angen gwneud rhagor o waith i gynyddu cyfranogiad disgyblion mewn ysgolion a cholegau, felly roedd yn dda iawn gweld gweithredu ar hyn trwy gyflwyno adnodd newydd ar y we.
Gofynnwyd i mi sôn yn fyr sut roedd fy ngwefan newydd fel Comisiynydd Plant wedi fy helpu i glywed gan blant a phobl ifanc am faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ein gwefan wedi cael cryn effaith, a thrwy’r tudalennau Atebnôl rydyn ni wedi gweld plant a phobl ifanc yn cysylltu â ni ynghylch pob math o faterion. Mae’n bwysig i mi bod plant a phobl ifanc yn darparu gwybodaeth uniongyrchol ar gyfer fy rhaglen waith, a does dim amheuaeth bod y wefan wedi gwneud gwaith defnyddiol iawn o ran casglu barn plant a phobl ifanc. Does dim byd arall mor bwerus â sgwrs un i un neu gyfarfod gyda grŵp o blant a phobl ifanc, ond mae defnyddio technoleg yn rhoi cyfle i rai plant a phobl ifanc gysylltu â ni mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol. Ar hyn o bryd mae Atebnôl yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc roi gwybod i ni sut maen nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, fel bod modd i ni edrych ar ffyrdd newydd o gyfathrebu â nhw.
Rhan o’r digwyddiad oedd cyflwyniad byr gan dri aelod o Gyngor Ysgol Gynradd Kitchener. Roedden nhw’n wych. Fe ddwedson nhw wrthon ni pa mor bwysig yw gwaith y Cyngor Ysgol, a sut mae plant yn gwneud gwahaniaeth trwy weithio gyda’r athrawon a’r oedolion eraill yn yr ysgol. Fe wnaethon nhw gyfeirio hefyd at ddysgu am ddinasyddiaeth a sut mae bod yn rhan o’r Cyngor Ysgol yn rhoi sgiliau a chyfleoedd newydd iddyn nhw. “Pwy a ŵyr”, dwedson nhw, “gallen ni fod yn Aelodau Cynulliad ryw ddydd, neu’n Aelodau Seneddol, neu hyd yn oed yn Gomsiynydd Plant Cymru!” Chwarddodd pawb yn y gynulleidfa wrth glywed hynny.
Yna ddoe fe es i i Gynhadledd Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru. Ar ôl fy anerchiad, fe wnes i ateb cwestiynau a pharhau â’r trafodaethau yn ystod y bore adeg egwyl coffi a chinio. Roedd digon gan y rhai oedd yn bresennol i’w ddweud, ac roedden nhw’n cynnwys eitha croestoriad o ymarferwyr. Roedd rhai sylwadau yn cydnabod bod y Gweinidog Iechyd wedi darparu peth cyllid ac adnoddau, ond nad oedd y rhain bob amser wedi cyrraedd y rheng flaen, a bod heriau’n wynebu’r Byrddau Iechyd Lleol newydd, yn enwedig o ran sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael ar gyfer gwahanol oedrannau. Fe fues i hefyd yn siarad â rhywun o’r gwasanaeth troseddau ieuenctid, a gododd fater cartrefi gofal preifat a beth sy’n digwydd pan fydd pobl ifanc yn y cartrefi hynny’n cyflawni troseddau. Fe glywais i hefyd gan Feddygon Teulu ac eraill yn y proffesiwn meddygol, yn ogystal â Cruse Gogledd Cymru, am ofal i blant a phobl ifanc sy’n dioddef profedigaeth. Hefyd clywais i ddau gyflwyniad ysbrydoledig. Roedd y cyntaf gan yr Athro Simon Gowers o Brifysgol Lerpwl a fu’n trafod anhwylderau bwyta. Cafodd e ei ddilyn gan Joy Mitchell o CBS Wrecsam a soniodd am les emosiynol a gwrthweithio bwlio.
Ond unwaith eto, plant gafodd y sylw pennaf. Perfformiodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o Ysgol Gynradd Sirol Rhosymedre ddrama gyfeillio a ddangosodd i bawb sut mae’r system gyfeillio sydd ganddyn nhw yn yr ysgol yn gweithio, trwy gyflwyno tair stori wahanol. Enw’r gyntaf oedd “trafferthion testun” ac roedd yn dangos sut mae bwlio’n gweithio dros y we. Dangosodd yr ail un, “sibrydion slei” sut gall plant gael eu hynysu a dioddef triniaeth gas, ac yn y trydydd un, “arian ar goll”, gwelwyd sut gall mynnu arian ar gam adael plant yn teimlo’n agored i niwed ac yn eisiau bwyd pan fydd rhywun yn mynd â’u harian cinio a bws. Yn y tair drama, gwelwyd y system gyfeillio’n gweithredu, ac roedd yr actio’n wych. Roeddech chi’n wir yn teimlo poen dioddefwyr y bwlio, ond roeddech chi hefyd yn gallu teimlo balchder yr holl blant yma yn eu hysgol, yn ei gilydd, ac yn eu system gyfeillio.
Go brin fod ots gan unrhyw un o’r oedolion oedd yn bresennol yn y digwyddiadau hyn mai’r plant gafodd y sylw pennaf. Ac mae hynny llawn cystal, mewn gwirionedd, achos pryd bynnag mae plant yn cael lle canolog ar y llwyfan, maent bob amser yn ysbrydoli’r rhai o’u hamgylch.
Postiwyd yn Ateb nol, CAMHS, Cyfranogiad, Cynghorau Ysgol, Sylwadau Clo CCUHP | Dim Sylwadau »