Blog Keith

Archif ar gyfer ‘Chwarae’ Categorïau

“Beth yw pobl anabl?”

Dydd Gwener, Gorffennaf 2, 2010

Fe dreuliais i fore gwych ym Mharc y Gnoll yn Her Ysgolion Local Aid yr wythnos hon. Mae’r digwyddiad yn para ar hyd yr wythnos, ac mae wedi cael ei gynnal ers ugain mlynedd neu fwy. Rydyn ni wedi mwynhau diwrnodau lu o heulwen di-dor, felly roeddwn i’n synnu braidd i weld y glaw, ond wnaeth hynny ddim lleihau brwdfrydedd neb ynghylch y digwyddiad, sy’n un arbennig iawn.

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod am Local Aid, elusen leol ydyn nhw sy’n gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o anghenion a dyheadau pobl ifanc ag anghenion arbennig. Mae’r sefydliad yn darparu offer arbenigol, ac yn trefnu cymorth teithio, gwasanaethau arbenigol a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol mewn cymunedau lleol yng Nghastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe. Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol, ac yn hyrwyddo hawliau unigolion i gael cefnogaeth i gyflawni eu potensial. Maen nhw hefyd yn mynd ati i gefnogi plant a theuluoedd mewn angen, yn ogystal â chynnig hwyl, dewis a chyfle i’r plant a’r bobl ifanc dan sylw.

Felly beth oedd yn digwydd ym Mharc y Gnoll? Pob math o weithgareddau gyda phob math o heriau, a’r cyfan yn yr awyr agored. Roedd y parc yn llawn pobl ifanc gwlyb, mwdlyd, hapus yn cael amser gwych. Roedden nhw’n gwneud cyrsiau antur, yn tynnu rafftiau ar draws y llyn, yn mynd ar weiriau zip a sleidiau dŵr ac yn gwneud pob math o weithgareddau. Roedd pob tîm o bobl ifanc, ac roedd rhyw 400 ohonyn nhw yno y bore hwnnw (2,000 yn ystod yr wythnos) yn cael pwyntiau am gymryd rhan, cwblhau tasgau, ateb cwestiynau a chael y wlychfa fwyaf! Syniad gwych. Mae pob math o sefydliadau’n cefnogi’r digwyddiad. Heddlu, diffoddwyr tân, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, swyddogion prawf, gwirfoddolwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys, athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr chwarae, swyddogion chwaraeon… mae’r rhestr yn ddiderfyn. A phob un ohonynt yn darparu gweithgareddau ar gyfer dysgu a mwynhau.

Fe es i am dro rownd y parc i deimlo’r naws ac i sgwrsio â’r bobl ifanc. Ar un stondin – rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop SNAP Cymru: ‘Her Amrywiaeth’ – roedd grŵp o bobl ifanc yn sefyll o flaen bord yn llawn lluniau o bobl enwog a sêr. Roedd gan bob un o’r bobl yn y lluniau anabledd. “Felly, p’un o’r bobl yma sy’n methu gweld?” holodd y trefnydd. “Wel, swn i’n meddwl mai Stevie Wonder fydde’r person yna” meddai rhywun yn y blaen. “Ti’n iawn, Stevie Wonder yw e, ond dyw hynny ddim wedi’i atal rhag cynhyrchu’r gerddoriaeth orau, ydy e?” Cytunodd pawb. “Sefwch funud” meddai bachgen ar fy llaw chwith “beth yw pobl anabl ta beth?” Trodd ei ffrind ato a dweud “Dyna pwy yn ni!” “O, wi’n gweld.” A chwarddodd pawb.

Fe wnes i siarad â llawer o bobl ifanc, oedd i gyd yn cael amser gwych. Dwy ddim yn gwybod faint o weithiau clywais i fod gwneud pethau yn yr awyr agored yn “cŵl”, “bril”, “hwyl”, “cyffrous”, “mega”. Ond pam mae mor dda? Wel, yr ateb gorau glywais i oedd rhywbeth fel hyn “Wel, rydw i wedi dysgu llwyth, rydw i’n wlyb i’r croen, mae mwd yn fy motwm bol, a bydd isie glanhau fy nghadair olwyn … ond beth yw’r ots!”

Alla i ddim canmol y digwyddiad yma digon. Mae’n wych i gynyddu ymwybyddiaeth o anabledd, ond hefyd i weld bod modd dymchwel rhwystrau i ymwneud a chyfranogiad. Agwedd gadarnhaol yw’r peth hollbwysig, ac mae’r egni positif mae’r digwyddiad yma’n ei gynhyrchu yn siarad drosto’i hun.

Postiwyd yn Chwarae, Cyfranogiad, Plant a Phobl Ifanc Anabl | Dim Sylwadau

Paentio â bysedd

Dydd Llun, Mai 17, 2010

Rydw i’n ei chael hi’n amhosib eistedd wrth ford feithrin gyda phlant sy’n defnyddio paent a phapur heb roi cynnig arni fy hun. Ac ar ben hynny, roedd y plant yma’n paentio â’u bysedd ac at eu peneliniau mewn paent du yn creu lluniau o gwningod. Gwych.

Roeddwn i’n gallu gweld mai cwningen oedd yn fy llun i, ond doeddwn i ddim yn rhy siŵr bod y plant yn cytuno. Yna ymlaen i’r gegin drws nesa, lle roedd rhai rhieni’n gwneud teisennod ac wedi paratoi rholiau bacwn a choffi ar gyfer eu gwesteion. Gwaith caled, ond mae’n rhaid i rywun ei wneud e!

Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad gan Cherrie Taylor a Peter Williams o Faith in Families i fynd i Ganolfan Deulu’r Clas yn Abertawe gyda Kay. Yn yr Eglwys yng Nghymru, mae Bwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn cynnal nifer o Brosiectau Faith in Families, ac fe ges i gyfle i ymweld â thri ohonyn nhw yn Abertawe. Es i i’r Clas yn gyntaf, ac wedyn ymlaen i Ganolfannau Teulu Pen-plas a Bon-y-maen. Tipyn o fore.

Sbel yn ôl fe fues i’n siarad yng nghynhadledd yr Eglwys yng Nghymru, ac yn fuan wedyn ysgrifennodd Cherrie ata i yn gofyn i mi ymweld â nhw. Fe wnaeth hi fy atgoffa am rywbeth roeddwn i wedi’i ddweud yn y gynhadledd, sef “po hiraf rydw i wedi bod yn Gomisiynydd, mwyaf pryderus wyf i am fagu plant a’n cyfrifoldebau tuag at rieni”. Wrth iddi hi fy nghyfarch wrth y drws yn y Clas, daeth yn amlwg yn fuan fod popeth y byddwn i’n ei weld yn ymwneud â darparu gwasanaethau a chefnogaeth i blant a’u rhieni. Roedd awyrgylch cynnes, croesawgar ym mhob un o’r Canolfannau Teulu, ac roedd pob math o bethau’n digwydd yno. Roedd plant wrthi’n paentio â’u bysedd, yn canu caneuon, yn plannu tatws a blodau, ac yn cael amser gwych yn gyffredinol. Dydw i erioed wedi gweld cymaint o gompost mewn ardal chwarae i blant, nac wedi sylweddoli faint o hwyl gallai hynny greu. Felly, tra bod plant y Clas wrthi’n paentio’u dwylo a’u breichiau, roedd plant Pen-plas yn gompost o’u corun i’w sawdl. Fe fydda i’n meddwl bod lefel y llanast bron yn ddieithriad yn cyfateb i lefel yr hwyl – ac roedd y plant yma i gyd yn cael hwyl ac yn dysgu llawer, ac yn wên o glust i glust.

A beth oedd y rhieni’n ei wneud yn y cyfamser? Wel, roedden nhw’n gwneud teisennod, yn cymryd rhan mewn gweithdy gemwaith, yn sgwrsio, ac yn cwrdd â’r Comisiynydd Plant. Wrth drafod gyda nhw, fe glywais i faint roedd y Canolfannau Teulu’n ei olygu iddyn nhw. Dywedodd un ohonyn nhw wrthyf fi ei bod hi wedi bod yn dod yno ers sawl blwyddyn. Meddai hi “Mae ein plant yn wir wedi tyfu yma, ac mae’r un peth yn wir amdanon ni”. Fe glywais i am lwyddiant rhai ohonyn nhw i sicrhau lle mewn prifysgol neu goleg, am y gweithgareddau a’r cyrsiau hyfforddi maen nhw wedi’u dilyn, am y dadleuon maen nhw wedi’u cynnal, sut maen nhw’n cefnogi ei gilydd, eu gobeithion at y dyfodol, a sut mae’r Ganolfan wedi bod yn ganolbwynt i gymaint o bethau cadarnhaol iddyn nhw a’u plant. Dywedodd un arall wrthyf fi: “Mae fy mhlant yn saff fan hyn, ac oherwydd eu bod nhw’n hapus, mae gen i amser i fod yn rhan o bethau a chynllunio at y dyfodol. Mae wedi fy ngwneud yn fam well. Ac achos mod i’n fwy hyderus, mae fy mhlant yn elwa hefyd”.

Mae’r Canolfannau Teulu hefyd yn ganolfannau cyswllt, ac fe ges i weld y cyfleusterau sydd ar gael. Fe glywais i am y trefniadau partneriaeth a faint o ymdrech sy’n cael ei gwneud i sicrhau cyllid a chynllunio adeiladau newydd a rhai wedi’u hadnewyddu. Wrth siarad â’r staff rydych chi’n cael y teimlad bod ganddyn nhw weledigaeth a phwrpas. Maen nhw’n bobl sy’n sylweddoli gwerth gwaith ataliol gyda theuluoedd, manteision partneriaeth a’r budd mae plant yn ei gael trwy fuddsoddi amser a darparu cyfleoedd i rieni. Wrth i nifer cynyddol o blant ddod yn rhan o’r system ofal, mae angen i ni gydnabod gwerth gwaith ataliol yn fwy. Mae’r gwaith yma’n real. Mae’n amlwg yn gwneud gwahaniaeth, ac mae angen i ni osod mwy o werth arno a’i ddiogelu’n fwy nag yr ydym ar hyn o bryd.

Wrth yrru o Fon-y-maen, bu Kay a minnau’n myfyrio ar yr hyn roedden ni wedi’i weld a’n trafodaethau. Meddai Kay, “On’d yw hi’n wych treulio amser gyda phobl go iawn sy’n gwneud sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol?”. Gwir iawn, Kay, dyna’n union roeddwn i’n meddwl hefyd.

Gyda diolch i’r holl blant, mamau, tadau a staff yn y Prosiectau Faith in Families – pobl ysbrydoledig sy’n gwneud y peth iawn dros eu plant a throstyn nhw eu hunain.

Postiwyd yn Chwarae, Magu Plant | Dim Sylwadau

Yr hawl i grwydro

Dydd Gwener, Mawrth 5, 2010

Yng nghynhadledd Chwarae Cymru yr wythnos ddiwetha, fe wnes i gloi fy anerchiad trwy ddweud bod gan blant yr hawl i grwydro. I chwarae ar ein strydoedd ac yn ein mannau cyhoeddus gan wybod y byddai oedolion yn parchu eu hawl i fod yno. I wneud sŵn. I chwarae. I fod yn blant.

On’d yw hi’n drist bod plant bellach yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu chwarae y tu allan fel roeddwn i’n sicr yn gwneud, ac fel byddwn i’n tybio bod llawer o oedolion yn gwneud pan oedden nhw’n blant? Wrth i mi eistedd yn y gynulleidfa yn gwrando ar y siaradwyr eraill, cawson ni’n gwahodd i gofio sut bydden ni’n chwarae pan oedden ni’n blant. Roeddwn i’n cofio chwarae yn yr awyr agored. Adeiladu cuddfannau yn y coed. Dringo ar draws piben oedd yn mynd dros yr afon, chwarae pêl-droed yn y strydoedd, a threulio amser y tu fas i’r siop leol gyda fy ffrindiau – ein prif fan cyfarfod.

Amser gwych gyda llu o atgofion hapus. Ac eto heddiw, gallai plentyn fyddai’n gwneud yr un pethau fod yn euog o achosi niwsans, neu hyd yn oed o fod yn wrthgymdeithasol. Bron yn sicr byddai rhywun yn gofyn iddyn nhw adael y siop, ac o ran y biben dros yr afon, gallai hynny olygu erlyniad am dresmasu. Beth sydd wedi digwydd i ni fel cymdeithas? Beth sydd wedi digwydd i blentyndod? Allwn ni ddod o hyd i ffordd i gredu mewn plant eto a rôl chwarae yn eu bywydau?

Trwy chwarae y tu allan mae plant yn dysgu gwerthuso risg, bod yn gyfrifol amdanynt eu hunain, cyd-drafod, ac ydynt, maen nhw’n dysgu sut mae cael hwyl a mwynhau. Mae hynny’n rhan hollbwysig o blentyndod ac mae’n hen bryd i ni fel cymdeithas ddysgu derbyn hynny. Beth sy’n fwy, mae dyletswydd arnon ni fel oedolion i sicrhau bod plant yn gallu chwarae ar ein strydoedd ac yn ein mannau cyhoeddus. Mae’n bryd i ni ofyn pam mai ceir sy’n cael y lle amlycaf ar ein strydoedd preswyl. Yn wir, mae’n bryd i ni osod terfyn ar ein cyflymder ar y ffyrdd, cael gwared o’r arwyddion dim gêmau pêl, ac yn lle hynny, gymryd yn ganiataol y bydd plant yn chwarae yno, ac yn fwy na hynny, bod croeso iddyn nhw wneud.

 Yr wythnos hon fe es i i Symposiwm Pedair Cenedl y DU ar chwarae plant yn Llundain, oedd yn gyfle i glywed sut mae pob gwlad yn symud ymlaen o ran chwarae plant. Ac mae pob un ohonynt yn gwneud cynnydd, a neb yn fwy felly nag yma yng Nghymru. Ces i gyfle i siarad am y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) a fydd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol, yn ogystal â dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfranogiad plant mewn penderfyniadau a allai effeithio arnyn nhw. Ni yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu fel hyn yng nghyswllt chwarae plant, ac mae llawer o gydweithwyr ar draws y DU yn edrych arnom ni’n eiddigeddus.

Roedd y symposiwm yn wych. Bu’r Farwnes Delyth Morgan yn sôn am gynnydd Lloegr, bu Marguerite Hunter Blair o Play Scotland yn dadansoddi’r cynnydd yno, a rhoddodd Patricia Lewsley ei phersbectif hithau fel Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon. Roedd yn wych hefyd clywed Maggie Atkinson, Comisiynydd Plant newydd Lloegr, wrth iddi fanteisio ar y cyfle i siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn ei swydd newydd. Bydd adroddiad symposiwm wedi’i seilio ar y trafodaethau ar gael yn fuan i’r rhai sydd â diddordeb.

Ond ydy’r symposiwm wedi helpu i symud hyn i gyd yn ei flaen? Yr unig ateb galla i ei roi yw ei fod, o safbwynt personol, yn bendant wedi fy helpu i hogi fy meddyliau, ac rwyf wedi dod oddi yno gyda phenderfyniad o’r newydd i weithio tuag at greu Cymru sy’n agored i blant ac yn gyfforddus gyda’r syniad eu bod nhw’n gallu chwarae ar ein strydoedd ac yn ein mannau cyhoeddus.

Bydd y rhai ohonoch chi sy’n nabod Mike Greenaway, o Chwarae Cymru, yn dda, yn gwybod ei fod yn credu’n angerddol mewn chwarae plant. Mae’n cael ysbrydoliaeth wirioneddol o bryd i’w gilydd, ac roedd ar ei orau yn y symposiwm. “Rydyn ni mewn perygl difrifol o wneud rhywbeth bendigedig o radical dros blant yng Nghymru. Gall plant, ac fe ddylen nhw, gael yr hawl i grwydro – wyddoch chi, gallen ni’n wir wneud i hyn ddigwydd yng Nghymru.”

Mae Mike yn iawn, ond mae’n rhaid i ni gael yr hyder a’r ewyllys i gyflawni hyn. Fydd ein plant ddim yn maddau i ni os na wnawn ni fanteisio’n llawn ar botensial y Mesur.

Hawl plant i grwydro? Ie, yn bendant. A bod yn onest, dyna beth fues i’n ei fwynhau pan oeddwn i’n blentyn. Ac wyddoch chi beth? Wnaeth e ddim niwed o gwbl i mi!

Postiwyd yn Chwarae | Dim Sylwadau