Blog Keith

Archif ar gyfer ‘CAMHS’ Categorïau

Dwyn y sylw i gyd

Dydd Gwener, Mawrth 12, 2010

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod i ddau ddigwyddiad lle llwyddodd plant o ddwy Ysgol Gynradd i ddwyn y sylw i gyd.

Y cyntaf oedd lansio gwefan Cyfranogiad Disgyblion Cymru Llywodraeth y Cynulliad: www.llaisdisgyblioncymru.org.uk, a gynhaliwyd gan Ysgol Gynradd Kitchener yng Nghaerdydd. Croesawodd y Pennaeth bawb oedd yn bresennol i’r ysgol, ac roedd anerchiadau byr gan Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant a gennyf i. Roedd Joe Ledley, y pêl-droediwr sy’n chwarae i Ddinas Caerdydd a Chymru, yno hefyd. Roeddwn i’n falch iawn o fod yno, ac fe wnes i longyfarch Llywodraeth Cymru ar symud ymlaen gyda hyn. Pan gyhoeddodd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn eu sylwadau terfynol neu eu hargymhellion ar gyfer y DU, fe wnaethon nhw bwysleisio bod angen gwneud rhagor o waith i gynyddu cyfranogiad disgyblion mewn ysgolion a cholegau, felly roedd yn dda iawn gweld gweithredu ar hyn trwy gyflwyno adnodd newydd ar y we.

Gofynnwyd i mi sôn yn fyr sut roedd fy ngwefan newydd fel Comisiynydd Plant wedi fy helpu i glywed gan blant a phobl ifanc am faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ein gwefan wedi cael cryn effaith, a thrwy’r tudalennau Atebnôl rydyn ni wedi gweld plant a phobl ifanc yn cysylltu â ni ynghylch pob math o faterion. Mae’n bwysig i mi bod plant a phobl ifanc yn darparu gwybodaeth uniongyrchol ar gyfer fy rhaglen waith, a does dim amheuaeth bod y wefan wedi gwneud gwaith defnyddiol iawn o ran casglu barn plant a phobl ifanc. Does dim byd arall mor bwerus â sgwrs un i un neu gyfarfod gyda grŵp o blant a phobl ifanc, ond mae defnyddio technoleg yn rhoi cyfle i rai plant a phobl ifanc gysylltu â ni mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol. Ar hyn o bryd mae Atebnôl yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc roi gwybod i ni sut maen nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, fel bod modd i ni edrych ar ffyrdd newydd o gyfathrebu â nhw.

Rhan o’r digwyddiad oedd cyflwyniad byr gan dri aelod o Gyngor Ysgol Gynradd Kitchener. Roedden nhw’n wych. Fe ddwedson nhw wrthon ni pa mor bwysig yw gwaith y Cyngor Ysgol, a sut mae plant yn gwneud gwahaniaeth trwy weithio gyda’r athrawon a’r oedolion eraill yn yr ysgol. Fe wnaethon nhw gyfeirio hefyd at ddysgu am ddinasyddiaeth a sut mae bod yn rhan o’r Cyngor Ysgol yn rhoi sgiliau a chyfleoedd newydd iddyn nhw. “Pwy a ŵyr”, dwedson nhw, “gallen ni fod yn Aelodau Cynulliad ryw ddydd, neu’n Aelodau Seneddol, neu hyd yn oed yn Gomsiynydd Plant Cymru!” Chwarddodd pawb yn y gynulleidfa wrth glywed hynny.

Yna ddoe fe es i i Gynhadledd Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru. Ar ôl fy anerchiad, fe wnes i ateb cwestiynau a pharhau â’r trafodaethau yn ystod y bore adeg egwyl coffi a chinio. Roedd digon gan y rhai oedd yn bresennol i’w ddweud, ac roedden nhw’n cynnwys eitha croestoriad o ymarferwyr. Roedd rhai sylwadau yn cydnabod bod y Gweinidog Iechyd wedi darparu peth cyllid ac adnoddau, ond nad oedd y rhain bob amser wedi cyrraedd y rheng flaen, a bod heriau’n wynebu’r Byrddau Iechyd Lleol newydd, yn enwedig o ran sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael ar gyfer gwahanol oedrannau. Fe fues i hefyd yn siarad â rhywun o’r gwasanaeth troseddau ieuenctid, a gododd fater cartrefi gofal preifat a beth sy’n digwydd pan fydd pobl ifanc yn y cartrefi hynny’n cyflawni troseddau. Fe glywais i hefyd gan Feddygon Teulu ac eraill yn y proffesiwn meddygol, yn ogystal â Cruse Gogledd Cymru, am ofal i blant a phobl ifanc sy’n dioddef profedigaeth. Hefyd clywais i ddau gyflwyniad ysbrydoledig. Roedd y cyntaf gan yr Athro Simon Gowers o Brifysgol Lerpwl a fu’n trafod anhwylderau bwyta. Cafodd e ei ddilyn gan Joy Mitchell o CBS Wrecsam a soniodd am les emosiynol a gwrthweithio bwlio.

Ond unwaith eto, plant gafodd y sylw pennaf. Perfformiodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o Ysgol Gynradd Sirol Rhosymedre ddrama gyfeillio a ddangosodd i bawb sut mae’r system gyfeillio sydd ganddyn nhw yn yr ysgol yn gweithio, trwy gyflwyno tair stori wahanol. Enw’r gyntaf oedd “trafferthion testun” ac roedd yn dangos sut mae bwlio’n gweithio dros y we. Dangosodd yr ail un, “sibrydion slei” sut gall plant gael eu hynysu a dioddef triniaeth gas, ac yn y trydydd un, “arian ar goll”, gwelwyd sut gall mynnu arian ar gam adael plant yn teimlo’n agored i niwed ac yn eisiau bwyd pan fydd rhywun yn mynd â’u harian cinio a bws. Yn y tair drama, gwelwyd y system gyfeillio’n gweithredu, ac roedd yr actio’n wych. Roeddech chi’n wir yn teimlo poen dioddefwyr y bwlio, ond roeddech chi hefyd yn gallu teimlo balchder yr holl blant yma yn eu hysgol, yn ei gilydd, ac yn eu system gyfeillio.

Go brin fod ots gan unrhyw un o’r oedolion oedd yn bresennol yn y digwyddiadau hyn mai’r plant gafodd y sylw pennaf. Ac mae hynny llawn cystal, mewn gwirionedd, achos pryd bynnag mae plant yn cael lle canolog ar y llwyfan, maent bob amser yn ysbrydoli’r rhai o’u hamgylch.

Postiwyd yn Ateb nol, CAMHS, Cyfranogiad, Cynghorau Ysgol, Sylwadau Clo CCUHP | Dim Sylwadau »