Blog Keith
Archif ar gyfer Mai, 2012
#taluapharch
Dydd Gwener, Mai 11, 2012
Ces i fore gwych yn cefnogi GwirForce yn eu digwyddiad yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Roedd yn fore a nodweddwyd gan ddigonedd o egni cadarnhaol, egni a oedd yn dweud cyfrolau am bwysigrwydd ac arwyddocâd gwirfoddoli gan bobl ifanc.
Panel o bobl ifanc 16-25 mlwydd oed o bob rhan o Gymru yw GwirForce, sy’n dod at ei gilydd i hybu a chefnogi gwirfoddoli gan bobl ifanc yng Nghymru. Nhw yw partner arweiniad ieuenctid y Bartneriaeth GwirVol. I gael gwybod mwy, ewch i’r wefan, dilynwch nhw ar twitter @GwirForce neu edrychwch ar #paidwithrespect (#taluapharch) i weld popeth sydd wedi cael ei drydar am y digwyddiad yma – sy’n profi, petai angen hynny, faint o egni ac ymroddiad sydd yn bodoli ledled Cymru i gefnogi gwirfoddoli gan bobl ifanc.
Mae pobl ifanc a gwirfoddoli yn gyfuniad grymus. Dwi wir yn credu bod pobl ifanc yn gallu gwella pethau. Gallan nhw wneud i bethau da ddigwydd iddyn nhw eu hunain, i eraill, i gymunedau ac i’w teuluoedd.
Yn ystod y lansio, fe wnaethon ni weld a chlywed enghreifftiau o bobl ifanc yn rhoi yn hael o’u hamser a’u hegni i sicrhau canlyniad positif. Yn llawer rhy aml rydyn ni’n gweld, yn darllen neu’n clywed pethau negyddol am blant a phobl ifanc, felly roedd e’n wych i sefyll ar lwyfan cyhoeddus a rhoi fy nghefnogaeth i GwirForce a’r holl waith maen nhw’n ei wneud i hybu delweddau positif o bobl ifanc. All pobl ifanc newid y byd? Gallant.
Cafwyd dechreuad anghonfensiynol i’r digwyddiad, gyda phob aelod o GwirForce ar y llwyfan gyda’u pypedau yn canu’r Time Warp o’r Rocky Horror Picture Show.
Yna, ar ôl araith gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones, fe wnaethon ni wylio ffilm ysbrydoledig o’r enw Why Not? oedd yn proffilio pobl ifanc o bob rhan o Gymru sy’n ymwneud â gwirfoddoli. Cyrhaeddodd tri o’r bobl ifanc yn y ffilm y rhestr fer i ennill Gwobr y Person Ifanc oedd yn Ysbrydoliaeth. Yr enillydd oedd Adam Cousins o Sir Gaerfyrddin, ac yn dynn ar ei sodlau roedd Rob Green a Sarah Picton. Cafwyd cymeradwyaeth fyddarol i’r tri wrth i Carwyn gyflwyno’r wobr. “Nid er mwyn cael gwobr mae pobl yn gwirfoddoli, ond mae’n dda cael cydnabyddiaeth,” meddai. Gwir pob gair. Llongyfarchiadau i Adam, Rob a Sarah.
Da iawn bawb yn GwirForce. Gobeithio eich bod chi i gyd yn hapus ‘da sut aeth pethau – dylech chi fod yn wirioneddol falch o bopeth rydych chi wedi cyflawni.
Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau