Colomennod yn ymosod ym mhrosiect diweddaraf UsUnLtd
“Beth sydd trwy fan hyn?” gofynnais i. “Sa i’n siŵr” daeth yr ateb: ”A sa i’n gwybod gan bwy mae’r tortsh, ond well i ni edrych”. Mewn â ni i’r lle tywyll a hedfanodd tair colomen allan tuag aton ni.
Roedd fel golygfa o ffilm Alfred Hitchcock. Dihangodd y colomennod trwy ffenest oedd wedi torri – fel roedden nhw wedi dod i fewn yn y lle cynta, siŵr o fod. Ar ôl tipyn o weiddi roedden ni nôl lawr llawr gyda hanesion oedd yn gorddweud mwy a mwy sut roedd y colomennod bron wedi’n “darnio”.
Roeddwn i’n ymweld ag Us UnLtd yn Fflint. Maen nhw’n rhan o fenter sy’n cael ei gyrru mlaen gan Llamau, elusen i’r digartref sy’n gweithio i helpu grŵp o bobl ifanc ddigartref i weithredu fel entrepreneuriaid a chreu eu dyfodol eu hunain. Gweledigaeth Us UnLtd yw grymuso pobl ifanc ddigartref yn Sir y Fflint. Datblygodd y pobl ifanc cynllun busnes ar gyfer siop, canolfan i ddarparu hyfforddiant sgiliau a dysgu, caffe a llety, gyda chyfle i ddysgu sgiliau bywyd pwysig.
Os rhown ni’r colomennod o’r neilltu am y tro, mae bellach yn flwyddyn ers i mi gwrdd â’r bobl ifanc yma am y tro cyntaf, ac mae eu siop nawr ar agor yn Fflint.
Mae’n wych dal i fyny gyda’r bobl ifanc a gweld y cynnydd rhyfeddol maen nhw wedi ei wneud. Mae’r siop yn gwerthu nifer o eitemau, ond mae’r gwasanaeth argraffu crysau-T yn arbennig o lwyddiannus.
Fe wnes i fanteisio ar y cyfle i archebu crys-T unigryw oedd yn cynnwys fy newis o luniau. Felly ar y blaen mae logo Us UnLtd:
Ac ar y cefn mae teisen yn dathlu 10fed pen-blwydd Comisiynydd Plant Cymru:
Rwy’n siŵr y cytunwch chi i gyd fod hynny’n eitha cŵl. Os bydd angen argraffu crysau-T arnoch chi unrhyw bryd, dyma’r busnes i chi – mae croeso i bob archeb, ac mae’r holl elw yn cael ei fuddsoddi yn y fenter gymdeithasol er mwyn cynyddu’r gallu i gynnal pobl ifanc ddigartref yn Sir y Fflint.
Felly beth oedd hanes ymosodiad y colomennod? Wel, roeddwn i’n ymweld â phrosiect nesaf Us UnLtd, sef troi adeilad gyferbyn â’r siop yn ganolfan newydd i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu. Mae’r ceisiadau am grantiau wedi cael eu cyflwyno, ac mae bysedd pawb wedi eu croesi. Bydd angen llawer o waith i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd y safon, ond mae potensial aruthrol, a mae hyn i gyd yn cael ei sbarduno gan allu creadigol, gweledigaeth a gwaith caled Us UnLtd.
Rydw i wedi cwrdd â rhai o’r bobl ifanc sy’n ymwneud ag UsUnLtd ambell waith o’r blaen, ac o bryd i’w gilydd bydd neges ar Twitter yn rhoi gwybod i mi am eu camau diweddara. Mae’r holl bobl ifanc yno wedi llwyddo i oresgyn rhai pethau anodd yn eu bywydau. Maen nhw i gyd yn wynebu heriau sy’n parhau wrth iddyn nhw adeiladu bywydau iddyn nhw eu hunain, gan sefydlu cartrefi, dod o hyd i waith, a mynd i’r coleg i sicrhau cymwysterau, i enwi ond tri pheth. Ar ben hynny, maen nhw’n rhoi eu amser i adeiladu menter gymdeithasol Us UnLtd.
“Rydyn ni i gyd eisiau adeiladu rhywbeth fydd yn helpu eraill sy’n wynebu’r un peth ag roedden ni.”
Mae gan lawer o bobl yn y byd uchelgais, ond nid pawb sy’n gallu dyfalbarhau a’i chyflawni. Mae Us UnLtd yn eitha penderfynol, ac mae eu cynnydd yn ystod y 12 mis diwethaf wedi bod yn anhygoel.
Y tro nesa byddwch chi yn Fflint, galwch heibio i’w gweld nhw ar Stryd yr Eglwys. Rwy’n gwybod y byddan nhw wrth eu bodd yn eich gweld ac maen nhw’n haeddu pob cefnogaeth.
Postiwyd y cofnod yma ar Medi 30, 2011 am 08:44 o dan y categori Heb Gategori. Fe allwch chi ddilyn ymatebion i'r cofnod hwn drwy y porthiant RSS 2.0. Mae sylwadau a pingio wedi cau ar hyn o bryd.
Mae sylwadau ar y blog yma yn mynd drwy system cymedroli ac o ganlyniad ni fydd y sylwadau yn ymddangos ar unwaith. Os ydych yn dymuno ysgrifennu sylwadau mae hi'n angenrheidiol i chi gynnwys cyfeiriad e-bost. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn ymddangos ar y wefan.


