Blog Keith

Etholiad Cyffredinol

Wrth i’r ymgyrchu fynd yn ei flaen, mae oedolion, ar fwy nag un achlysur, wedi gofyn i mi oes gan bobl ifanc ddiddordeb yn yr Etholiad Cyffredinol. Ar sail fy mhrofiad yn ystod yr wythnosau diwetha, byddwn i’n dweud mai oes yw’r ateb i hynny.

Roedd pobl ifanc ym Mhrif Gyngor y Ddraig Ffynci’n cymryd diddordeb, ac yn gwneud sylwadau ar berfformiadau’r arweinwyr yn y dadleuon ar y teledu. Mae pobl ifanc eraill wedi sôn wrthyf i am i ba raddau mae polisïau’r pleidiau gwleidyddol yn apelio i bobl ifanc.

Ac wedyn heddi, ces i alwad ffôn gan Nathan. Mae Nathan yn 16 oed ac yn awyddus i wybod beth yw barn y pleidiau gwleidyddol ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. “Pe bai’r oedran pleidleisio’n is, falle bydden nhw’n meddwl mwy am y materion sy’n bwysig i bobl ifanc” eglurodd. Roeddwn i’n cytuno, ond dywedais i fod rhai pobl o’r farn nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. “Oes, mae”, atebodd yntau “ac rydw i eisiau gofyn barn y pleidiau am hynny – wyt ti’n meddwl byddan nhw’n gwrando arna i, Keith?”

Fe wnes i ei annog i fynd ati. Wedi’r cyfan, plaid ddewr, neu ffôl o bosib, fyddai’n anwybyddu diddordeb pleidleiswyr ifanc a’r rhai fydd â hawl i bleidleisio ymhen ychydig flynyddoedd. Ers peth amser rydw i wedi clywed pobl yn mynegi rhwystredigaeth oherwydd diffyg ymwneud pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Ymddengys i mi fod yr etholiad yma wedi ennyn diddordeb ymhlith pobl ifanc.

Gostwng yr oedran pleidleisio? Atebion ar gerdyn post, plis. Pryd bynnag rydw i wedi codi hyn o’r blaen gyda phobl ifanc rydw i wedi clywed dadleuon o blaid ac yn erbyn. Yn yr hinsawdd bresennol mae’n ymddangos bod y rhai o blaid yn y mwyafrif.

Yr hyn sy’n eglur yw ei bod hi’n wych bod pobl ifanc fel Nathan yn ymddiddori cymaint mewn gwleidyddiaeth a’r polisïau fydd yn dylanwadu ar eu dyfodol.

Postiwyd y cofnod yma ar Ebrill 26, 2010 am 08:50 o dan y categori Heb Gategori. Fe allwch chi ddilyn ymatebion i'r cofnod hwn drwy y porthiant RSS 2.0. Fe allwch chi wneud sylw, neu ôl-nodi o'ch gwefan eich hun.

Mae sylwadau ar y blog yma yn mynd drwy system cymedroli ac o ganlyniad ni fydd y sylwadau yn ymddangos ar unwaith. Os ydych yn dymuno ysgrifennu sylwadau mae hi'n angenrheidiol i chi gynnwys cyfeiriad e-bost. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn ymddangos ar y wefan.

Gwnewch sylw