Blog Keith
Medi 6, 2010
Pan oeddwn i’n ifancach, fy llysenw yn yr ysgol oedd KT. Un diwrnod cofiadwy, roedden ni’n chwarae pêl-droed ar iard yr ysgol. Daeth y bachgen yma’n pelto lawr yr asgell, gyda’r bêl wrth ei draed. Fel roedd e ar fin saethu am y gôl, dyma fi’n rhoi fy nhroed mewn i’w daclo. Rwy’n dal i ddadlau mai’r bêl giciais i gynta, ond mae’n bosib i mi roi cic i’w bigwrn wrth fynd heibio! Wrth iddo hedfan drwy’r awyr, y cyfan gallwn i ei glywed oedd siantio “Towler fowler”!
Felly, pan oeddwn i yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg y diwrnod o’r blaen i wylio DVD o rap cyfranogiad oedd wedi’i greu gan bobl ifanc, fe wnes i chwerthin yn uchel pan berfformion nhw’r llinell “da ni gyd di clywed am Robbie Fowler, ond faint ohonoch chi sy’n nabod Keith Towler”.
Cafodd y DVD ei greu gan grŵp gwych o bobl ifanc ym Mro Morgannwg, ar ôl i ni ofyn iddyn nhw lunio rap dwyieithog i helpu i dynnu sylw at hawliau pobl ifanc yng Nghymru. Nod y rap yw hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a chynyddu ymwybyddiaeth o Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc Cymru. Gydag ychydig o help gan rai o’u tiwtoriaid a gweithwyr ieuenctid, llwyddodd y grŵp i ysgrifennu, recordio a chynhyrchu fideo cerddoriaeth o fewn 4 diwrnod. Mae’n wirioneddol dda, felly cofiwch wneud amser i’w wylio.
Mae cynyddu ymwybyddiaeth am y Confensiwn ymhlith plant a phobl ifanc mor bwysig. Y peth gwych am y DVD yma yw ei fod yn llawn hwyl a gwybodaeth, ac yn hawdd iawn ei wylio. Mae’r ffaith mai pobl ifanc sydd wedi’i baratoi ar gyfer pobl ifanc yn golygu ei fod yn ffres ac yn wych i’w wylio. Rwy’n gobeithio bydd yn cael ei chwarae ym mhob rhan o Gymru.
Roedd yn anrhydedd i mi wylio’r dangosiad cyntaf, a chyflwyno tystysgrifau cyflawniad i’r bobl ifanc oedd wedi ei greu. Efallai bydd angen iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â bod yn sêr nawr, ond rwy’n siŵr byddan nhw’n ymdopi. Roedd myfyrwyr blwyddyn 9 yn y gynulleidfa, ac roedden nhw’n amlwg wrth eu bodd. Ces i bron cymaint o hwyl yn gwylio’r rhai oedd wedi gwneud y ffilm yn anesmwytho wrth iddyn nhw weld eu hunain yn canu a dawnsio. Ond maen nhw wedi gwneud gwaith gwych, a dylen nhw fod yn falch o beth maen nhw wedi’i gyflawni.
Llongyfarchiadau mawr i bawb wnaeth gymryd rhan.
Postiwyd yn Cyfranogiad, Ymweliad Ysgol | Dim Sylwadau »
Gorffennaf 2, 2010
Fe dreuliais i fore gwych ym Mharc y Gnoll yn Her Ysgolion Local Aid yr wythnos hon. Mae’r digwyddiad yn para ar hyd yr wythnos, ac mae wedi cael ei gynnal ers ugain mlynedd neu fwy. Rydyn ni wedi mwynhau diwrnodau lu o heulwen di-dor, felly roeddwn i’n synnu braidd i weld y glaw, ond wnaeth hynny ddim lleihau brwdfrydedd neb ynghylch y digwyddiad, sy’n un arbennig iawn.
I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod am Local Aid, elusen leol ydyn nhw sy’n gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o anghenion a dyheadau pobl ifanc ag anghenion arbennig. Mae’r sefydliad yn darparu offer arbenigol, ac yn trefnu cymorth teithio, gwasanaethau arbenigol a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol mewn cymunedau lleol yng Nghastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe. Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol, ac yn hyrwyddo hawliau unigolion i gael cefnogaeth i gyflawni eu potensial. Maen nhw hefyd yn mynd ati i gefnogi plant a theuluoedd mewn angen, yn ogystal â chynnig hwyl, dewis a chyfle i’r plant a’r bobl ifanc dan sylw.
Felly beth oedd yn digwydd ym Mharc y Gnoll? Pob math o weithgareddau gyda phob math o heriau, a’r cyfan yn yr awyr agored. Roedd y parc yn llawn pobl ifanc gwlyb, mwdlyd, hapus yn cael amser gwych. Roedden nhw’n gwneud cyrsiau antur, yn tynnu rafftiau ar draws y llyn, yn mynd ar weiriau zip a sleidiau dŵr ac yn gwneud pob math o weithgareddau. Roedd pob tîm o bobl ifanc, ac roedd rhyw 400 ohonyn nhw yno y bore hwnnw (2,000 yn ystod yr wythnos) yn cael pwyntiau am gymryd rhan, cwblhau tasgau, ateb cwestiynau a chael y wlychfa fwyaf! Syniad gwych. Mae pob math o sefydliadau’n cefnogi’r digwyddiad. Heddlu, diffoddwyr tân, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, swyddogion prawf, gwirfoddolwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys, athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr chwarae, swyddogion chwaraeon… mae’r rhestr yn ddiderfyn. A phob un ohonynt yn darparu gweithgareddau ar gyfer dysgu a mwynhau.
Fe es i am dro rownd y parc i deimlo’r naws ac i sgwrsio â’r bobl ifanc. Ar un stondin – rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop SNAP Cymru: ‘Her Amrywiaeth’ – roedd grŵp o bobl ifanc yn sefyll o flaen bord yn llawn lluniau o bobl enwog a sêr. Roedd gan bob un o’r bobl yn y lluniau anabledd. “Felly, p’un o’r bobl yma sy’n methu gweld?” holodd y trefnydd. “Wel, swn i’n meddwl mai Stevie Wonder fydde’r person yna” meddai rhywun yn y blaen. “Ti’n iawn, Stevie Wonder yw e, ond dyw hynny ddim wedi’i atal rhag cynhyrchu’r gerddoriaeth orau, ydy e?” Cytunodd pawb. “Sefwch funud” meddai bachgen ar fy llaw chwith “beth yw pobl anabl ta beth?” Trodd ei ffrind ato a dweud “Dyna pwy yn ni!” “O, wi’n gweld.” A chwarddodd pawb.
Fe wnes i siarad â llawer o bobl ifanc, oedd i gyd yn cael amser gwych. Dwy ddim yn gwybod faint o weithiau clywais i fod gwneud pethau yn yr awyr agored yn “cŵl”, “bril”, “hwyl”, “cyffrous”, “mega”. Ond pam mae mor dda? Wel, yr ateb gorau glywais i oedd rhywbeth fel hyn “Wel, rydw i wedi dysgu llwyth, rydw i’n wlyb i’r croen, mae mwd yn fy motwm bol, a bydd isie glanhau fy nghadair olwyn … ond beth yw’r ots!”
Alla i ddim canmol y digwyddiad yma digon. Mae’n wych i gynyddu ymwybyddiaeth o anabledd, ond hefyd i weld bod modd dymchwel rhwystrau i ymwneud a chyfranogiad. Agwedd gadarnhaol yw’r peth hollbwysig, ac mae’r egni positif mae’r digwyddiad yma’n ei gynhyrchu yn siarad drosto’i hun.
Postiwyd yn Chwarae, Cyfranogiad, Plant a Phobl Ifanc Anabl | Dim Sylwadau »
Mai 17, 2010
Rydw i’n ei chael hi’n amhosib eistedd wrth ford feithrin gyda phlant sy’n defnyddio paent a phapur heb roi cynnig arni fy hun. Ac ar ben hynny, roedd y plant yma’n paentio â’u bysedd ac at eu peneliniau mewn paent du yn creu lluniau o gwningod. Gwych.
Roeddwn i’n gallu gweld mai cwningen oedd yn fy llun i, ond doeddwn i ddim yn rhy siŵr bod y plant yn cytuno. Yna ymlaen i’r gegin drws nesa, lle roedd rhai rhieni’n gwneud teisennod ac wedi paratoi rholiau bacwn a choffi ar gyfer eu gwesteion. Gwaith caled, ond mae’n rhaid i rywun ei wneud e!
Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad gan Cherrie Taylor a Peter Williams o Faith in Families i fynd i Ganolfan Deulu’r Clas yn Abertawe gyda Kay. Yn yr Eglwys yng Nghymru, mae Bwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn cynnal nifer o Brosiectau Faith in Families, ac fe ges i gyfle i ymweld â thri ohonyn nhw yn Abertawe. Es i i’r Clas yn gyntaf, ac wedyn ymlaen i Ganolfannau Teulu Pen-plas a Bon-y-maen. Tipyn o fore.
Sbel yn ôl fe fues i’n siarad yng nghynhadledd yr Eglwys yng Nghymru, ac yn fuan wedyn ysgrifennodd Cherrie ata i yn gofyn i mi ymweld â nhw. Fe wnaeth hi fy atgoffa am rywbeth roeddwn i wedi’i ddweud yn y gynhadledd, sef “po hiraf rydw i wedi bod yn Gomisiynydd, mwyaf pryderus wyf i am fagu plant a’n cyfrifoldebau tuag at rieni”. Wrth iddi hi fy nghyfarch wrth y drws yn y Clas, daeth yn amlwg yn fuan fod popeth y byddwn i’n ei weld yn ymwneud â darparu gwasanaethau a chefnogaeth i blant a’u rhieni. Roedd awyrgylch cynnes, croesawgar ym mhob un o’r Canolfannau Teulu, ac roedd pob math o bethau’n digwydd yno. Roedd plant wrthi’n paentio â’u bysedd, yn canu caneuon, yn plannu tatws a blodau, ac yn cael amser gwych yn gyffredinol. Dydw i erioed wedi gweld cymaint o gompost mewn ardal chwarae i blant, nac wedi sylweddoli faint o hwyl gallai hynny greu. Felly, tra bod plant y Clas wrthi’n paentio’u dwylo a’u breichiau, roedd plant Pen-plas yn gompost o’u corun i’w sawdl. Fe fydda i’n meddwl bod lefel y llanast bron yn ddieithriad yn cyfateb i lefel yr hwyl – ac roedd y plant yma i gyd yn cael hwyl ac yn dysgu llawer, ac yn wên o glust i glust.
A beth oedd y rhieni’n ei wneud yn y cyfamser? Wel, roedden nhw’n gwneud teisennod, yn cymryd rhan mewn gweithdy gemwaith, yn sgwrsio, ac yn cwrdd â’r Comisiynydd Plant. Wrth drafod gyda nhw, fe glywais i faint roedd y Canolfannau Teulu’n ei olygu iddyn nhw. Dywedodd un ohonyn nhw wrthyf fi ei bod hi wedi bod yn dod yno ers sawl blwyddyn. Meddai hi “Mae ein plant yn wir wedi tyfu yma, ac mae’r un peth yn wir amdanon ni”. Fe glywais i am lwyddiant rhai ohonyn nhw i sicrhau lle mewn prifysgol neu goleg, am y gweithgareddau a’r cyrsiau hyfforddi maen nhw wedi’u dilyn, am y dadleuon maen nhw wedi’u cynnal, sut maen nhw’n cefnogi ei gilydd, eu gobeithion at y dyfodol, a sut mae’r Ganolfan wedi bod yn ganolbwynt i gymaint o bethau cadarnhaol iddyn nhw a’u plant. Dywedodd un arall wrthyf fi: “Mae fy mhlant yn saff fan hyn, ac oherwydd eu bod nhw’n hapus, mae gen i amser i fod yn rhan o bethau a chynllunio at y dyfodol. Mae wedi fy ngwneud yn fam well. Ac achos mod i’n fwy hyderus, mae fy mhlant yn elwa hefyd”.
Mae’r Canolfannau Teulu hefyd yn ganolfannau cyswllt, ac fe ges i weld y cyfleusterau sydd ar gael. Fe glywais i am y trefniadau partneriaeth a faint o ymdrech sy’n cael ei gwneud i sicrhau cyllid a chynllunio adeiladau newydd a rhai wedi’u hadnewyddu. Wrth siarad â’r staff rydych chi’n cael y teimlad bod ganddyn nhw weledigaeth a phwrpas. Maen nhw’n bobl sy’n sylweddoli gwerth gwaith ataliol gyda theuluoedd, manteision partneriaeth a’r budd mae plant yn ei gael trwy fuddsoddi amser a darparu cyfleoedd i rieni. Wrth i nifer cynyddol o blant ddod yn rhan o’r system ofal, mae angen i ni gydnabod gwerth gwaith ataliol yn fwy. Mae’r gwaith yma’n real. Mae’n amlwg yn gwneud gwahaniaeth, ac mae angen i ni osod mwy o werth arno a’i ddiogelu’n fwy nag yr ydym ar hyn o bryd.
Wrth yrru o Fon-y-maen, bu Kay a minnau’n myfyrio ar yr hyn roedden ni wedi’i weld a’n trafodaethau. Meddai Kay, “On’d yw hi’n wych treulio amser gyda phobl go iawn sy’n gwneud sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol?”. Gwir iawn, Kay, dyna’n union roeddwn i’n meddwl hefyd.
Gyda diolch i’r holl blant, mamau, tadau a staff yn y Prosiectau Faith in Families – pobl ysbrydoledig sy’n gwneud y peth iawn dros eu plant a throstyn nhw eu hunain.
Postiwyd yn Chwarae, Magu Plant | Dim Sylwadau »
Ebrill 26, 2010
Wrth i’r ymgyrchu fynd yn ei flaen, mae oedolion, ar fwy nag un achlysur, wedi gofyn i mi oes gan bobl ifanc ddiddordeb yn yr Etholiad Cyffredinol. Ar sail fy mhrofiad yn ystod yr wythnosau diwetha, byddwn i’n dweud mai oes yw’r ateb i hynny.
Roedd pobl ifanc ym Mhrif Gyngor y Ddraig Ffynci’n cymryd diddordeb, ac yn gwneud sylwadau ar berfformiadau’r arweinwyr yn y dadleuon ar y teledu. Mae pobl ifanc eraill wedi sôn wrthyf i am i ba raddau mae polisïau’r pleidiau gwleidyddol yn apelio i bobl ifanc.
Ac wedyn heddi, ces i alwad ffôn gan Nathan. Mae Nathan yn 16 oed ac yn awyddus i wybod beth yw barn y pleidiau gwleidyddol ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. “Pe bai’r oedran pleidleisio’n is, falle bydden nhw’n meddwl mwy am y materion sy’n bwysig i bobl ifanc” eglurodd. Roeddwn i’n cytuno, ond dywedais i fod rhai pobl o’r farn nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. “Oes, mae”, atebodd yntau “ac rydw i eisiau gofyn barn y pleidiau am hynny – wyt ti’n meddwl byddan nhw’n gwrando arna i, Keith?”
Fe wnes i ei annog i fynd ati. Wedi’r cyfan, plaid ddewr, neu ffôl o bosib, fyddai’n anwybyddu diddordeb pleidleiswyr ifanc a’r rhai fydd â hawl i bleidleisio ymhen ychydig flynyddoedd. Ers peth amser rydw i wedi clywed pobl yn mynegi rhwystredigaeth oherwydd diffyg ymwneud pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Ymddengys i mi fod yr etholiad yma wedi ennyn diddordeb ymhlith pobl ifanc.
Gostwng yr oedran pleidleisio? Atebion ar gerdyn post, plis. Pryd bynnag rydw i wedi codi hyn o’r blaen gyda phobl ifanc rydw i wedi clywed dadleuon o blaid ac yn erbyn. Yn yr hinsawdd bresennol mae’n ymddangos bod y rhai o blaid yn y mwyafrif.
Yr hyn sy’n eglur yw ei bod hi’n wych bod pobl ifanc fel Nathan yn ymddiddori cymaint mewn gwleidyddiaeth a’r polisïau fydd yn dylanwadu ar eu dyfodol.
Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau »
Mawrth 26, 2010
Yr wythnos diwethaf, bûm i gynhadledd “Trais mewn Perthnasau” i bobl ifanc yn ne Cymru. Cafodd ei threfnu gan Heddlu De Cymru ac fe’i mynychwyd gan oddeutu 250 o bobl ifanc 14 i 17 oed.
Roedd yn ddiwrnod da iawn. Dechreuwyd y gweithgareddau gan y Prif Gwnstabl Peter Vaughan, a atgoffodd yr holl bobl ifanc ei fod yn hollol annerbyniol i fod yn ddioddefwr mewn perthynas dreisgar. Yn ystod y dydd, cafwyd cyflwyniadau pwerus a theimladwy gan gynnwys drama ryngweithiol gan Gwmni Theatr Geese, tair stori bwerus gan bobl ifanc am eu bywydau go iawn, ac un stori gan Pat, sef oedolyn a gadwodd ei chynulleidfa ar bigau’r drain wrth adrodd hanes emosiynol ei phrofiad ei hun o fod yn ddioddefwraig mewn perthynas dreisgar.
Yn ystod y dydd, gofynnwyd rhai cwestiynau i’r bobl ifanc gan Melvyn a Tam o’r Ddraig Ffynci. Defnyddiodd y cyfranogwyr fysellfyrddau pleidleisio yn eu dwylo i gofrestru eu pleidleisiau. Roedd un o’r cwestiynau’n gofyn i bobl ifanc a oedd rhai o’u ffrindiau erioed wedi bod mewn perthynas gamdriniol.
Cefais sioc o weld 66% yn y bore a 70% yn y prynhawn yn dweud eu bod yn adnabod rhywun yn y sefyllfa honno. Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod atal yn llawer gwell nag ymyrraeth ar ôl y digwyddiad, a diben y gynhadledd oedd codi ymwybyddiaeth pobl ifanc a rhoi hyder iddynt roi gwybod i eraill am y broblem petaent yn gweld eu bod mewn perthynas dreisgar.
Yn fy araith fer, llongyfarchais yr Heddlu am drefnu diwrnod mor bwysig. Siaradais am hawliau plant ond cefais sioc o weld dim ond 20 o ddwylo’n codi pan ofynnais i’r bobl ifanc a oeddent yn gwybod am eu hawliau. Yn llawer rhy aml, clywaf y ddadl fod pobl ifanc yn gwybod popeth am eu hawliau a dim byd am eu cyfrifoldebau. Yn amlwg, nid felly y mae hi.
Yn ffodus, roedd Jamie, Lucy, Mark a Robela y tu allan yn fan arddangos wen y Comisiynydd, felly anogais bawb i ymweld â’r fan i gasglu gwybodaeth ar CCUHP a manylion ar sut y gallent gysylltu â mi petai angen iddynt wneud hynny. Erbyn diwedd y prynhawn, roedd yn amlwg eu bod wedi gwrando ar fy nghyngor, oherwydd bod y ffrisbîs â’n manylion cyswllt arnynt yn hedfan dros bob man.
Arweiniwyd y diwrnod yn fedrus ac yn llawn hiwmor gan Kevin Johns. Ar ôl imi orffen fy sgwrs, fe’m galwodd yn “Ddyn fan wen pwysicaf Cymru”. Dyna ddigywilydd!
Postiwyd yn Heb Gategori | Dim Sylwadau »
Mawrth 19, 2010
Disgrifiai Elaine ei hun fel “ffug-Bennaeth”, ond darganfyddais yn fuan nad oedd hynny’n wir. Elaine yw Pennaeth Dros Dro Ysgol Gymunedol Twynyrodyn ym Merthyr Tydfil ac roeddwn yno i gyflwyno eu Gwobr Buddsoddwyr mewn Teuluoedd ynghyd â gwobr y Faner Werdd.
Es i mewn i neuadd yr ysgol yn gyntaf i gyfarfod â’r 300 o ddisgyblion a oedd oll yn eistedd mewn tawelwch wrth i mi gerdded i mewn gydag Elaine a Mark, sef un o wirfoddolwyr Comisiynydd Plant Cymru. Cefais fy nghyflwyno gan ddau o’r disgyblion a gwnes eu hadnabod ar unwaith gan ‘mod i wedi cyfarfod â nhw ychydig yn ôl yn y Senedd. Roeddwn i’n eu cofio oherwydd eu bod wedi gofyn am fy llofnod bryd hynny – sydd ddim yn rhywbeth sy’n digwydd yn aml iawn – ac roedd yn hyfryd i’w gweld eto. Ar ôl cyflwyniad byr gen i bu’r plant yn canu caneuon ac yna roedd hi’n amser tynnu lluniau wrth i mi gyflwyno’r ddwy wobr i’r plant.
Bob o Media Wales oedd y ffotograffydd. Holodd pa mor dda oedd fy mhengliniau. Roedden nhw’n berffaith cyn iddo ‘ngorfodi i blygu i lawr ar lawr caled fel y gallai dynnu lluniau ohonai gyda’r plant i gyd! Roedd y plant i gyd yn wych ac roedden nhw’n amlwg yn edrych ymlaen at weld eu llun yn y papur lleol.
Fel rhan o’m cyflwyniad holais y disgyblion a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn ymuno â Chomisiynydd Plant Cymru fel Ysgol Lysgenhadol. Awgrymai sgrech uchaf y prynhawn eu bod yn awyddus iawn i gynnal cysylltiad â mi a thrwy sgwrsio â rhai ohonyn nhw daeth yn amlwg i mi eu bod yn ymwybodol o hawliau plant. Yn wir mae’r Wobr Buddsoddwyr mewn Teuluoedd yn dangos bod yr ysgol yn mynd ati i geisio cynnwys pawb, gan ennyn parch rhwng plant, pobl ifanc ac oedolion. Roedd y ffaith bod ysgol mor groesawgar sydd eisoes wedi cyflawni cymaint yn awyddus i fod yn Ysgol Lysgenhadol yn gryn anrhydedd. Mark fydd yn gyfrifol am drafod ag Elaine sut y gallwn fynd ati i sefydlu’r rhaglen Ysgolion Llysgenhadol yn Ysgol Twynyrodyn.
Mae brwdfrydedd plant yn parhau i’m synnu. Gwnaeth hyd yn oed y rhai bach iawn a eisteddai’n daclus mewn rhes yn nhu blaen y neuadd ymuno â’r caneuon, gan guro eu dwylo a gweiddi yn yr holl fannau cywir. Roedd y cyffro yn ormod i rai ohonynt a oedd yn ei chael hi’n anodd i aros ar ddihun. Mae gallu plant bach i syrthio i gysgu ar amrantiad yn rhyfeddol ond rhyfeddol hefyd yw gallu rhai staff gwyliadwrus iawn a welodd y disgyblion cysglyd, gan fynd ati i’w deffro.
Wrth i ni adael roedd yr haul yn gwenu a rhedodd y plant i gyd allan i fwynhau amser chwarae estynedig. Gwobr haeddiannol iawn.
Dyma ysgol wych!
Postiwyd yn Llysgenhadon, Ymweliad Ysgol | Dim Sylwadau »
Mawrth 15, 2010
Brecwast yw un o’r geiriau rydw i’n hoffi ei sŵn fwya. Serch hynny, os ydw i’n onest, bydda i fel arfer yn rhuthro allan o’r tŷ bob bore gan golli pryd pwysicaf y dydd. Ond nid heddiw.
Rydw i newydd fod i Frecwast Busnes roedd Jane Hutt yn ei gynnal yng Ngholeg y Barri. Thema’r cyfarfod oedd “Ieuenctid yn y Fro”. Gwahoddodd Jane fi i ddweud cwpl o eiriau, ac roedd yn bleser bod yn rhan o rywbeth a sefydlwyd i ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc ym Mro Morgannwg.
Roedd plant a phobl ifanc yno o Fforwm Ieuenctid Gibbonsdown a Fforwm Ieuenctid y Fro, yn ogystal ag aelodau o gynghorau ysgol yn y Bont-faen, Llanilltud a’r Barri, a hefyd o Undeb Myfyrwyr Coleg y Barri.
Mae’n rhaid i mi ddweud bod cael brecwast wedi’i goginio yn wych, ac fe gafodd ei baratoi a’i weini’n grefftus gan fyfyrwyr Coleg y Barri. Mae fy ngwaith yn gallu bod yn anodd weithiau, ond wyddoch chi beth? Mae’n rhaid i rywun ei wneud, ac os yw hynny’n golygu bwyta brecwast da yng nghwmni plant, pobl ifanc ac oedolion… wel, rwy’n barod i wneud!
Ar ôl i Jane a minnau siarad, fe glywson ni gan y plant a’r bobl ifanc, gyda chyfeiriadau at yr holl bethau maen nhw’n eu gwneud, er enghraifft, llunio holiaduron i gasglu barn pobl ifanc, annog cynifer â phosib i chwarae rhan mewn gweithgareddau lleol, sefydlu statws masnach deg mewn ysgolion, gweithio ar Eco-bwyllgorau ysgolion, sefydlu prosiectau cyfeillio cyfoedion, dysgu sgiliau drymio i blant iau. Stwff gwych. Roedd yn ysbrydoliaeth i’r oedolion oedd yn bresennol glywed am yr holl bethau roedd plant a phobl ifanc yn eu cyflawni yn eu bywydau teuluol, cymdeithasol, cymunedol ac academaidd.
Wrth i mi yrru o’r digwyddiad ar ôl sgwrsio gyda phawb, un peth oedd yn fy meddwl – “On’d yw ein plant a’n pobl ifanc yn wych?” Ac fel roedd Jane wedi dweud yn ei sylwadau terfynol, yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yw “Odyn, maen nhw!” yn bendant.
Postiwyd yn Cynghorau Ysgol, Fforymau Ieuenctid | Dim Sylwadau »
Mawrth 12, 2010
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod i ddau ddigwyddiad lle llwyddodd plant o ddwy Ysgol Gynradd i ddwyn y sylw i gyd.
Y cyntaf oedd lansio gwefan Cyfranogiad Disgyblion Cymru Llywodraeth y Cynulliad: www.llaisdisgyblioncymru.org.uk, a gynhaliwyd gan Ysgol Gynradd Kitchener yng Nghaerdydd. Croesawodd y Pennaeth bawb oedd yn bresennol i’r ysgol, ac roedd anerchiadau byr gan Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant a gennyf i. Roedd Joe Ledley, y pêl-droediwr sy’n chwarae i Ddinas Caerdydd a Chymru, yno hefyd. Roeddwn i’n falch iawn o fod yno, ac fe wnes i longyfarch Llywodraeth Cymru ar symud ymlaen gyda hyn. Pan gyhoeddodd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn eu sylwadau terfynol neu eu hargymhellion ar gyfer y DU, fe wnaethon nhw bwysleisio bod angen gwneud rhagor o waith i gynyddu cyfranogiad disgyblion mewn ysgolion a cholegau, felly roedd yn dda iawn gweld gweithredu ar hyn trwy gyflwyno adnodd newydd ar y we.
Gofynnwyd i mi sôn yn fyr sut roedd fy ngwefan newydd fel Comisiynydd Plant wedi fy helpu i glywed gan blant a phobl ifanc am faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ein gwefan wedi cael cryn effaith, a thrwy’r tudalennau Atebnôl rydyn ni wedi gweld plant a phobl ifanc yn cysylltu â ni ynghylch pob math o faterion. Mae’n bwysig i mi bod plant a phobl ifanc yn darparu gwybodaeth uniongyrchol ar gyfer fy rhaglen waith, a does dim amheuaeth bod y wefan wedi gwneud gwaith defnyddiol iawn o ran casglu barn plant a phobl ifanc. Does dim byd arall mor bwerus â sgwrs un i un neu gyfarfod gyda grŵp o blant a phobl ifanc, ond mae defnyddio technoleg yn rhoi cyfle i rai plant a phobl ifanc gysylltu â ni mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol. Ar hyn o bryd mae Atebnôl yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc roi gwybod i ni sut maen nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, fel bod modd i ni edrych ar ffyrdd newydd o gyfathrebu â nhw.
Rhan o’r digwyddiad oedd cyflwyniad byr gan dri aelod o Gyngor Ysgol Gynradd Kitchener. Roedden nhw’n wych. Fe ddwedson nhw wrthon ni pa mor bwysig yw gwaith y Cyngor Ysgol, a sut mae plant yn gwneud gwahaniaeth trwy weithio gyda’r athrawon a’r oedolion eraill yn yr ysgol. Fe wnaethon nhw gyfeirio hefyd at ddysgu am ddinasyddiaeth a sut mae bod yn rhan o’r Cyngor Ysgol yn rhoi sgiliau a chyfleoedd newydd iddyn nhw. “Pwy a ŵyr”, dwedson nhw, “gallen ni fod yn Aelodau Cynulliad ryw ddydd, neu’n Aelodau Seneddol, neu hyd yn oed yn Gomsiynydd Plant Cymru!” Chwarddodd pawb yn y gynulleidfa wrth glywed hynny.
Yna ddoe fe es i i Gynhadledd Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru. Ar ôl fy anerchiad, fe wnes i ateb cwestiynau a pharhau â’r trafodaethau yn ystod y bore adeg egwyl coffi a chinio. Roedd digon gan y rhai oedd yn bresennol i’w ddweud, ac roedden nhw’n cynnwys eitha croestoriad o ymarferwyr. Roedd rhai sylwadau yn cydnabod bod y Gweinidog Iechyd wedi darparu peth cyllid ac adnoddau, ond nad oedd y rhain bob amser wedi cyrraedd y rheng flaen, a bod heriau’n wynebu’r Byrddau Iechyd Lleol newydd, yn enwedig o ran sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael ar gyfer gwahanol oedrannau. Fe fues i hefyd yn siarad â rhywun o’r gwasanaeth troseddau ieuenctid, a gododd fater cartrefi gofal preifat a beth sy’n digwydd pan fydd pobl ifanc yn y cartrefi hynny’n cyflawni troseddau. Fe glywais i hefyd gan Feddygon Teulu ac eraill yn y proffesiwn meddygol, yn ogystal â Cruse Gogledd Cymru, am ofal i blant a phobl ifanc sy’n dioddef profedigaeth. Hefyd clywais i ddau gyflwyniad ysbrydoledig. Roedd y cyntaf gan yr Athro Simon Gowers o Brifysgol Lerpwl a fu’n trafod anhwylderau bwyta. Cafodd e ei ddilyn gan Joy Mitchell o CBS Wrecsam a soniodd am les emosiynol a gwrthweithio bwlio.
Ond unwaith eto, plant gafodd y sylw pennaf. Perfformiodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o Ysgol Gynradd Sirol Rhosymedre ddrama gyfeillio a ddangosodd i bawb sut mae’r system gyfeillio sydd ganddyn nhw yn yr ysgol yn gweithio, trwy gyflwyno tair stori wahanol. Enw’r gyntaf oedd “trafferthion testun” ac roedd yn dangos sut mae bwlio’n gweithio dros y we. Dangosodd yr ail un, “sibrydion slei” sut gall plant gael eu hynysu a dioddef triniaeth gas, ac yn y trydydd un, “arian ar goll”, gwelwyd sut gall mynnu arian ar gam adael plant yn teimlo’n agored i niwed ac yn eisiau bwyd pan fydd rhywun yn mynd â’u harian cinio a bws. Yn y tair drama, gwelwyd y system gyfeillio’n gweithredu, ac roedd yr actio’n wych. Roeddech chi’n wir yn teimlo poen dioddefwyr y bwlio, ond roeddech chi hefyd yn gallu teimlo balchder yr holl blant yma yn eu hysgol, yn ei gilydd, ac yn eu system gyfeillio.
Go brin fod ots gan unrhyw un o’r oedolion oedd yn bresennol yn y digwyddiadau hyn mai’r plant gafodd y sylw pennaf. Ac mae hynny llawn cystal, mewn gwirionedd, achos pryd bynnag mae plant yn cael lle canolog ar y llwyfan, maent bob amser yn ysbrydoli’r rhai o’u hamgylch.
Postiwyd yn Ateb nol, CAMHS, Cyfranogiad, Cynghorau Ysgol, Sylwadau Clo CCUHP | Dim Sylwadau »
Mawrth 5, 2010
Yng nghynhadledd Chwarae Cymru yr wythnos ddiwetha, fe wnes i gloi fy anerchiad trwy ddweud bod gan blant yr hawl i grwydro. I chwarae ar ein strydoedd ac yn ein mannau cyhoeddus gan wybod y byddai oedolion yn parchu eu hawl i fod yno. I wneud sŵn. I chwarae. I fod yn blant.
On’d yw hi’n drist bod plant bellach yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu chwarae y tu allan fel roeddwn i’n sicr yn gwneud, ac fel byddwn i’n tybio bod llawer o oedolion yn gwneud pan oedden nhw’n blant? Wrth i mi eistedd yn y gynulleidfa yn gwrando ar y siaradwyr eraill, cawson ni’n gwahodd i gofio sut bydden ni’n chwarae pan oedden ni’n blant. Roeddwn i’n cofio chwarae yn yr awyr agored. Adeiladu cuddfannau yn y coed. Dringo ar draws piben oedd yn mynd dros yr afon, chwarae pêl-droed yn y strydoedd, a threulio amser y tu fas i’r siop leol gyda fy ffrindiau – ein prif fan cyfarfod.
Amser gwych gyda llu o atgofion hapus. Ac eto heddiw, gallai plentyn fyddai’n gwneud yr un pethau fod yn euog o achosi niwsans, neu hyd yn oed o fod yn wrthgymdeithasol. Bron yn sicr byddai rhywun yn gofyn iddyn nhw adael y siop, ac o ran y biben dros yr afon, gallai hynny olygu erlyniad am dresmasu. Beth sydd wedi digwydd i ni fel cymdeithas? Beth sydd wedi digwydd i blentyndod? Allwn ni ddod o hyd i ffordd i gredu mewn plant eto a rôl chwarae yn eu bywydau?
Trwy chwarae y tu allan mae plant yn dysgu gwerthuso risg, bod yn gyfrifol amdanynt eu hunain, cyd-drafod, ac ydynt, maen nhw’n dysgu sut mae cael hwyl a mwynhau. Mae hynny’n rhan hollbwysig o blentyndod ac mae’n hen bryd i ni fel cymdeithas ddysgu derbyn hynny. Beth sy’n fwy, mae dyletswydd arnon ni fel oedolion i sicrhau bod plant yn gallu chwarae ar ein strydoedd ac yn ein mannau cyhoeddus. Mae’n bryd i ni ofyn pam mai ceir sy’n cael y lle amlycaf ar ein strydoedd preswyl. Yn wir, mae’n bryd i ni osod terfyn ar ein cyflymder ar y ffyrdd, cael gwared o’r arwyddion dim gêmau pêl, ac yn lle hynny, gymryd yn ganiataol y bydd plant yn chwarae yno, ac yn fwy na hynny, bod croeso iddyn nhw wneud.
Yr wythnos hon fe es i i Symposiwm Pedair Cenedl y DU ar chwarae plant yn Llundain, oedd yn gyfle i glywed sut mae pob gwlad yn symud ymlaen o ran chwarae plant. Ac mae pob un ohonynt yn gwneud cynnydd, a neb yn fwy felly nag yma yng Nghymru. Ces i gyfle i siarad am y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) a fydd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol, yn ogystal â dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfranogiad plant mewn penderfyniadau a allai effeithio arnyn nhw. Ni yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu fel hyn yng nghyswllt chwarae plant, ac mae llawer o gydweithwyr ar draws y DU yn edrych arnom ni’n eiddigeddus.
Roedd y symposiwm yn wych. Bu’r Farwnes Delyth Morgan yn sôn am gynnydd Lloegr, bu Marguerite Hunter Blair o Play Scotland yn dadansoddi’r cynnydd yno, a rhoddodd Patricia Lewsley ei phersbectif hithau fel Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon. Roedd yn wych hefyd clywed Maggie Atkinson, Comisiynydd Plant newydd Lloegr, wrth iddi fanteisio ar y cyfle i siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn ei swydd newydd. Bydd adroddiad symposiwm wedi’i seilio ar y trafodaethau ar gael yn fuan i’r rhai sydd â diddordeb.
Ond ydy’r symposiwm wedi helpu i symud hyn i gyd yn ei flaen? Yr unig ateb galla i ei roi yw ei fod, o safbwynt personol, yn bendant wedi fy helpu i hogi fy meddyliau, ac rwyf wedi dod oddi yno gyda phenderfyniad o’r newydd i weithio tuag at greu Cymru sy’n agored i blant ac yn gyfforddus gyda’r syniad eu bod nhw’n gallu chwarae ar ein strydoedd ac yn ein mannau cyhoeddus.
Bydd y rhai ohonoch chi sy’n nabod Mike Greenaway, o Chwarae Cymru, yn dda, yn gwybod ei fod yn credu’n angerddol mewn chwarae plant. Mae’n cael ysbrydoliaeth wirioneddol o bryd i’w gilydd, ac roedd ar ei orau yn y symposiwm. “Rydyn ni mewn perygl difrifol o wneud rhywbeth bendigedig o radical dros blant yng Nghymru. Gall plant, ac fe ddylen nhw, gael yr hawl i grwydro – wyddoch chi, gallen ni’n wir wneud i hyn ddigwydd yng Nghymru.”
Mae Mike yn iawn, ond mae’n rhaid i ni gael yr hyder a’r ewyllys i gyflawni hyn. Fydd ein plant ddim yn maddau i ni os na wnawn ni fanteisio’n llawn ar botensial y Mesur.
Hawl plant i grwydro? Ie, yn bendant. A bod yn onest, dyna beth fues i’n ei fwynhau pan oeddwn i’n blentyn. Ac wyddoch chi beth? Wnaeth e ddim niwed o gwbl i mi!
Postiwyd yn Chwarae | Dim Sylwadau »
Mawrth 1, 2010
Heddiw mae’n Ddydd Gŵyl Dewi, a’r diwrnod yma, ddwy flynedd yn ôl, dechreuais i ar fy ngwaith fel Comisiynydd Plant Cymru. Er mwyn dathlu rydw i’n mynd yn fyw ar Twitter.
Ers peth amser bellach rydw i wedi bod yn ysgrifennu blog ar fewnrwyd ein staff. Mae rhai enghreifftiau wedi cyrraedd ein gwefan, ac mae’r Western Mail wedi argraffu un bob mis. Ond nawr bydd y blogiau rydw i’n eu hysgrifennu’n mynd ar ein gwefan, gydag archif, fel bod modd i bobl bori ynddyn nhw, os byddan nhw’n dymuno.
A bod yn onest, roeddwn i braidd yn sinigaidd am flogio, pan awgrymodd rhywun y syniad i mi gynta, ond rhaid i mi gyfadde mod i bellach wedi cael tröedigaeth, a hynny am ddau reswm yn bennaf. Yn gyntaf, mae’n amlwg bod pobl yn darllen blogiau. Rydw i wedi bod mewn cynadleddau a chyfarfodydd ac wedi clywed pobl yn dyfynnu ohonyn nhw, ac rydw i wedi cael llawer o sgyrsiau oherwydd bod rhywun wedi darllen blog ac yn awyddus i gael trafodaeth uniongyrchol gyda mi yn dilyn ymlaen o hynny. Byddai rhai’n dweud mod i wedi cymryd sbel i sylweddoli hyn, ond yr ail reswm yw mod i bellach yn gallu gweld eu gwerth fel offeryn cyfathrebu pwerus dros ben, ac y byddai peidio â bod yn rhan o’r byd digidol yn golygu mod i’n colli cyfle.
Pan ges i fy mhenodi ddwy flynedd yn ôl, heriodd Rhodri Morgan AM fi i ystyried trafod plant a phobl ifanc gyda’r cyhoedd yn gyffredinol, ac i ystyried ffyrdd o gyflawni fy ngwaith fel “Pencampwr Plant” trwy hyrwyddo agweddau cadarnhaol at ein plant a’n pobl ifanc. Mae hynny wedi dod yn agwedd gynyddol bwysig o’n gwaith, ac rydw i’n gobeithio bydd ysgrifennu blogiau rheolaidd a defnyddio Twitter yn fy helpu i drosglwyddo fy negeseuon a hefyd i ddilyn beth mae pobl eraill yn ei ddweud.
Felly, dyma fi’n mentro i fyd newydd cyffrous – wel, i mi, beth bynnag. Rydw i’n gyffrous am y cyfle a ddaw yn sgîl hyn i ddylanwadu ar eraill o ran y materion sy’n bwysig i blant a phobl ifanc. Gyda rhywfaint o lwc rydych chi’n darllen hwn oherwydd bod gennych chi ddiddordeb yn ein gwaith ni yma yn swyddfa’r Comisiynydd. Os yw hynny’n wir, rydw i’n gobeithio bydd y blogiau’n parhau i fod o ddiddordeb, ac y byddwch chi’n ein dilyn ar Twitter. Wela i chi yno!
Postiwyd yn Cyfryngau cymdeithasol | Dim Sylwadau »