tenby1

Gweminar Arlein

Bu’r seminar ar-lein, a ddigwyddodd yn Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod, yn cyflwyno cynllun y Llysgenhadon Gwych i’r sir.

tenby1

Mae Llysgenhadon Gwych – dau ddisgybl o bob ysgol – yn chwarae rhan arweiniol yn hyrwyddo gwaith Comisiynydd Plant Cymru.

Cafodd gweminar byw dydd Mawrth (Hydref 1af) ei gynnal gan Lysgenhadon Gwych Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod – Archie Hughes a Martha McKinley – gyda chymorth disgyblion o ysgol Arberth. Bu Archie a Martha yn sôn am y cynllun a’u gwaith trwy gyswllt cyfrifiadurol byw â mwy na 1000 o ddisgyblion mewn 35 ysgol gynradd ar draws y sir o’r Stagbwll i Abergwaun.

Gyda nhw roedd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, y Cynghorydd Ken Rowlands, yr Aelod Cabinet dros Addysg, a Jake Morgan, y Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion, a fu’n ymateb i ystod eang o gwestiynau a ofynnwyd gan y cyfranogwyr.

“Nod y cynllun Llysgenhadon Gwych yw rhoi mwy o lais i ddisgyblion yn eu hysgolion a chyd-fynd â gwaith y cynghorau ysgol sydd eisoes yn bodoli,” meddai’r Cynghorydd Rowlands. “Mae hefyd yn eu galluogi i gasglu barn eu ffrindiau a’u cyd-ddisgyblion ar ystod eang o faterion, sydd wedyn yn gallu cael eu bwydo i waith y Comisiynydd Plant.”

Yn ogystal â hyrwyddo gwaith y Comisiynydd Plant yn eu hysgol, mae’r Llysgenhadon Gwych yn hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rowlands fod 15 ysgol yn Sir Benfro wedi ymuno â’r cynllun eisoes, ond ei fod yn gobeithio y byddai llawer mwy yn dilyn ar ôl y gweminar.

Tenby2