Mae’n cynllun newydd, Llysgenhadon Uwchradd, yn ceisio hyrwyddo hawliau pobl ifanc a Chonfensiwn y Cynhadloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn ysgolion uwchradd.
Blwyddyn diwethaf roedd 6 ysgol yn rhan o gynllun peilot; mae eu mewnbwn a syniadau wedi helpu ni wrth lansio ein cynllun newydd i bob ysgol uwchradd yng Nghymru.
Rydyn ni’n gwahodd pob ysgol uwchradd i gofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016/17 nawr.
Mae’n hawdd, jyst dilynwch y linc.
Sut mae’n gweithio
Mae ysgolion yn ethol dau Lysgennad ar ddechrau pob blwyddyn. Mae gan Lysgenhadon Uwchradd tair dasg arbennig:
- Dweud wrth ddisgyblion eraill am rôl y Comisiynydd
- Sicrhau bod plant eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
- Cwblhau tasgau arbennig i’r Comisiynydd yn eu hysgol. Mae’r tasgau hon yn bwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa ac yn cael effaith mawr ar ein gwaith.
6 rheswm i ymuno
- Mae’r gwybodaeth ry’n ni’n casglu trwy’r cynllun yn bwydo’n uniongyrchol i’n gwaith; mae gan ein Llysgenhadon effaith go iawn ar hawliau plant yng Nghymru
- Mae’r cynllun Llysgenhadon yn darparu modd bywiog a rhyngweithiol i bobl ifanc yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n tanategu gweledigaeth addysg Llywodraeth Cymru.
- Trwy ddod yn ysgol Llysgenhadon Uwchradd byddwch yn dod yn rhan o rwydwaith ysgolion y Comisiynydd Plant ledled Cymru
- Rydyn ni’n bwriadu cynnal gweminarau (webinars) i ysgolion uwchradd in 2016/17. Bydd rhain yn cynnig cyfle i ddisgyblion i ddysgu mwy am waith y Comisiynydd ac i drafod materion sy’n effeithio pobl ifanc ledled Cymru.
- Bydd yr ysgol yn derbyn adnoddau am ddim i helpu hyrwyddo’r cynllun, yn cynnwys posteri a bathodynau.
- Does dim cost!
Mae’r Comisiynydd wedi ysgrifennu at bob pennaeth uwchradd i drafod y cynllun; mae’r llythyr ar gael i ddarllen fan hyn.
Ymunwch
Os hoffech chi gofrestru i’r cynllun am y flwyddyn 2016/17, llenwch y ffurflen yma.