Hawliau Plant yn y Byd Digidol

Pan ddes i’n Gomisiynydd Plant Cymru fe ofynnais i blant a phobl ifanc ddweud wrtha i beth oedd eu blaenoriaethau trwy fy ymgynghoriad Beth Nesa’.

Daeth bwlio i’r amlwg fel mater oedd yn brif destun pryder, ond er mwyn mynd i’r afael â hynny roeddwn i eisiau cael gwybod beth mae plant a phobl ifanc yn wir yn ei olygu pan fyddan nhw’n siarad am fwlio.

Er mwyn ymchwilio i hyn, mae fy swyddfa wedi ymgynghori â bron 3000 o bobl ifanc o dan 18 oed, sy’n rhan o’n cynlluniau Llysgenhadon, trwy weithgareddau creadigol, a gofyn i blant bortreadu bwlio trwy ddrama, lluniau ac ysgrifennu creadigol, a dros 400 o weithwyr professiynol.

Nid yw’n syndod bod seiberfwlio yn thema bwysig, a disgrifiodd llawer o bobl ifanc y mathau o fwlio sy’n cael eu dioddef trwy negeseuon uniongyrchol neu gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd dwy ferch o Geredigion oedd yn eu harddegau wrth fy nhîm am sut mae sylwadau parhaus ar-lein ac oddi ar lein ynghylch sut mae rhywun yn edrych yn achosi hunan-amheuaeth a cholli pwysau eithafol.

Ysgrifennodd plentyn ysgol gynradd stori am blentyn sy’n ‘casáu mynd i’r ysgol, mae pawb yn gweld beth mae Kyle yn ei bostio, ac maen nhw’n chwerthin am ei phen bob tro maen nhw’n ei gweld hi. Mae hi’n cerdded mewn i’r ysgol â’i dwylo dros ei hwyneb’.

Bu dosbarth Blwyddyn Saith yn trafod fideos bwlio corfforol oedd wedi cael eu rhannu ar ffonau – roedd dros hanner y dosbarth wedi gweld un o’r fideos hyn.

Ambell waith byddai pobl ifanc yn cyfaddef eu bod wedi seiberfwlio, gan ddweud yn aml eu bod yn ymuno â ‘phawb arall’.

Roedd hyn yn adleisio beth glywson ni gan lawer o bobl ifanc ledled Cymru y buon ni’n siarad â nhw, oedd yn mynegi pryder ynghylch sut i wrthsefyll bwlio, gan eu bod nhw ddim eisiau cael eu sugno i mewn i ymuno na’i ddioddef eu hunain.

Fel mae disgrifiadau pobl ifanc yn datgelu, mae seiberfwlio’n aml yn digwydd ochr yn ochr â phrofiadau eraill o fwlio, fel mae’r cartŵn sy’n dilyn yn dangos. Gwnaeth hynny i mi feddwl tybed a allai cydnabod bod seiberfwlio’n aml yn cael ei brofi ochr yn ochr â bwlio arall fod o gymorth wrth fynd i’r afael â’r mater yma.

Llun a gyflwynwyd i Gomisiynydd Plant Cymru gan ddisgybl ysgol gynradd. Mae’r delweddau yn dangos sylwadau ar-lein, ochr yn ochr â’r un sylwadau oddi ar lein.

Mae llawer o ysgolion yng Nghymru wedi datblygu Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant er mwyn creu amgylchedd ysgol lle mae hawliau a llesiant plant yn ganolog.

Mae hyn yn cynnwys hawliau i fod yn ddiogel, i beidio â dioddef camwahaniaethu, i gael preifatrwydd ac i gael gwrandawiad.

Mae fy swyddfa’n cyhoeddi canllawiau ar y dull gweithredu hwn yn ein Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg, a fydd yn cael ei lansio’n ddiweddarach y mis yma (18 Mai).

Mae’r astudiaethau achos yn y canllawiau hyn yn dangos bod bwlio’n cael ei rwystro mewn amgylchedd lle mae hawliau’n ganolog, gan fod staff a disgyblion yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o berthnasoedd ac ymddygiad priodol.

Mae modd addysgu ac ymarfer y sgiliau perthnasoedd hyn mewn ysgolion yn ogystal ag yn y cartref – empathi, goddefgarwch, sgiliau gwrando, cydnabod a mynegi teimladau a datrys gwrthdaro.

Gall ysgolion greu amgylcheddau lle mae gwahanol hunaniaethau’n cael eu dathlu, ac mae ymddygiad gormesol yn debygol o gael ei wrthod gan gyfoedion lawn cymaint â’r staff.

I lawer o bobl ifanc, does fawr ddim gwahaniaeth rhwng eu byd ar-lein ac oddi ar lein. Maent yn byw yn y ddau bron yn ddi-baid.

Dylai plant a phobl ifanc gael eu grymuso drwy wybod bod ganddyn nhw’r un hawliau ar-lein ag oddi ar lein.

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi’i seilio’n ddealledig ar hawliau plant, ond byddwn i’n argymell bod athrawon yng Nghymru yn mynd ymhellach ac yn dod â hawliau plant i’r blaen wrth ymdrin â’r Fframwaith, yn arbennig wrth fynd ati i ddatblygu canlyniadau’r llinyn dinasyddiaeth.

I esbonio hyn ymhellach, bydd fy nhîm yn rhannu rhagflas o sut gall ysgolion sicrhau Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant ym maes dysgu digidol yn Nigwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol Hwb ar 21 Mehefin.

Mae’n briodol bod adroddiadau am ganlyniadau trychinebus seiberfwlio wedi creu pryderon ynghylch y ffordd orau i leoliadau addysg yng Nghymru gefnogi disgyblion.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n diogelu anghenion tymor hir plant trwy sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i bob amgylchedd y maent yn byw ynddo, gan gynnwys yr amgylchedd digidol.

Mae grymuso pobl ifanc â dealltwriaeth o’u hawliau yn gam hollbwysig wrth ddiogelu eu lles, ar-lein ac oddi ar lein.

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol Hwb.

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am ein Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg.